Diolch am ddewis riportio'n ddienw. Rydym yn deall y gallai hwn fod yn gyfnod anodd i chi, ac rydym eisiau eich cysylltu â chymorth.
Mae dewis riportio'n ddienw yn golygu na allwn eich helpu'n uniongyrchol. Bydd y wybodaeth a rowch i ni heddiw yn ein helpu i ddarparu cymorth gwell i eraill ac i lywio gwaith atal ar draws y brifysgol.
Os hoffech i ni gysylltu â chi neu weithredu ar eich adroddiad, llenwch yr adroddiad hwn gyda'ch manylion cyswllt.
Os hoffech siarad â rhywun, neu os oes angen cymorth uniongyrchol neu arweiniad arnoch, neu os hoffech i ymchwiliad ffurfiol gael ei gynnal, dewiswch riportio gyda manylion.
Sylwch nad yw'r broses riportio hon yn rhan o weithdrefn gwyno ffurfiol y brifysgol. Os hoffech wneud cwyn ffurfiol, cyfeiriwch at weithdrefn gwynion briodol y brifysgol.
Mae eich data yn bwysig i ni. Ni fyddwn yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth sy'n mynd yn groes i'n polisi preifatrwydd.
Os yw hwn yn argyfwng: Ffoniwch 999 a hysbyswch Ddiogelwch y Brifysgol ar +44 (0)29 2087 4444, os yw’r sefyllfa’n cynnwys: perygl uniongyrchol, bwriad i ladd eich hun, meddu ar arf, bygythiadau o niwed, anaf corfforol, marwolaeth myfyriwr neu derfysgaeth.
Os oes pryder brys ynghylch iechyd meddwl, ffoniwch 111 a gwasgwch opsiwn 2.