Adrodd + Chymorth
Mae Adrodd a Chymorth yn blatfform diogel a chyfrinachol i rannu pryderon a chael gafael ar gymorth. Rydyn ni’n ymateb i achosion posibl o aflonyddu, ymddygiad niweidiol a phryderon brys am iechyd meddwl â pharch a gofal, a'r nod yw creu cymuned ddiogel i bawb. Mae pob adroddiad yn cael ei drin gan ymarferwyr arbenigol sy'n ymwybodol o drawma.
Gall myfyrwyr ddefnyddio Adrodd a Chymorth, neu gall unigolyn ei ddefnyddio ar ran myfyriwr neu mewn perthynas ag ymddygiad myfyrwyr.
A yw’r sefyllfa yn un brys? Os oes risg uniongyrchol o niwed difrifol, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 a rhowch wybod i Dîm Diogelwch y Brifysgol ar +44 (0)29 2087 4444.
Os hoffech chi wneud cwyn defnyddiwch y broses gwynion myfyrwyr.