Diolch yn fawr am roi gwybod inni/dewis adrodd am rywbeth sydd wedi digwydd. Efallai eich bod yn meddwl bod pethau'n anodd neu'n galed ar hyn o bryd, ond drwy ddewis rhoi eich manylion cyswllt inni, byddwn ni’n gallu helpu i roi gwell cymorth ichi ac i atal rhywbeth tebyg rhag digwydd i rywun arall.
Mae eich data yn bwysig inni. Fyddwn ni ddim yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth sy'n mynd yn groes i'n
polisi ar breifatrwydd. Cewch ateb cyn pen 48 awr, a bydd cynghorydd yn cysylltu â chi cyn pen pum diwrnod gwaith.
Os yw’n argyfwng: Ffoniwch 999 a rhowch wybod i Ddiogelwch y Brifysgol ar +44 (0)29 2087 4444, os yw'r sefyllfa'n ymwneud â: perygl sydd ar fin digwydd, bwriad hunanladdol, meddu ar arf, bygwth niwed, anaf corfforol, marwolaeth myfyriwr neu derfysgaeth.