25 Tachwedd 2025 – 10 Rhagfyr 2025
Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, parchus a chynhwysol i gymuned y Brifysgol. Ymunwch â ni am 16 Diwrnod o Weithredu wrth i ni dorri'r stigma ynghylch trais a cham-drin rhywiol, codi ymwybyddiaeth o gefnogaeth i bob rhywedd, a rhannu ffyrdd y gallwch chi weithredu.
Pam mae 25 Tachwedd yn bwysig
Mae 25 Tachwedd yn nodi dechrau 16 Diwrnod o Weithredu, ymgyrch fyd-eang i roi diwedd ar drais ar sail rhywedd. Mae hefyd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn Erbyn Menywod – ymgyrch dan arweiniad y Cenhedloedd Unedig i roi diwedd ar drais ar sail rhywedd, ac yn Ddiwrnod y Rhuban Gwyn sy’n annog dynion a bechgyn i wrthwynebu trais yn erbyn menywod a merched.
Sut gallwn ni eich cefnogi chi
Cefnogaeth frys
Dysgwch beth i'w wneud os ydych chi'n credu eich bod chi:
- mewn perygl uniongyrchol, neu’n poeni am eich diogelwch
- Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn y 7 diwrnod diwethaf, rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â’ch Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) lleol.
Darllenwch ein cyngor diogelwch a chefnogaeth uniongyrchol.
Dylech chi geisio cyngor ar unwaith ar ôl ymosodiad rhywiol.
Sut gallwn ni eich cefnogi chi
Cefnogaeth frys
Dysgwch beth i'w wneud os ydych chi'n credu eich bod chi:
- mewn perygl uniongyrchol, neu’n poeni am eich diogelwch
- Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn y 7 diwrnod diwethaf, rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â’ch Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) lleol.
Darllenwch ein cyngor diogelwch a chefnogaeth uniongyrchol.
Dylech chi geisio cyngor ar unwaith ar ôl ymosodiad rhywiol.
Agor pob un
Adrodd a Chymorth
Mae Adrodd a Chymorth yn lle cyfrinachol i chi ddod o hyd i gymorth. Os byddwch chi’n dewis rhoi eich manylion cyswllt, bydd eich adroddiad yn mynd yn uniongyrchol at y Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr (SSIT) – ymarferwyr sy'n wybodus ynglŷn â thrawma a sy'n cynnig amgylchedd diogel, heb ragfarn, wedi'i arwain gan eich anghenion chi. Mae SSIT ar wahân i brosesau reportio ffurfiol y brifysgol ac ni fydd yn effeithio ar eich cofnod academaidd.
Maen nhw’n gallu eich cefnogi chi yn y ffyrdd canlynol:
- gwrando arnoch chi
- rheoli pryderon ynghylch diogelwch
- eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol
- egluro opsiynau o ran reportio digwyddiadau, dim ond os ydych chi'n dymuno gwneud hynny.
Does dim angen i chi fod wedi reportio digwyddiad i’r Heddlu er mwyn defnyddio gwasanaethau SSIT.
Os yw'n well gennych chi reportio yn ddienw, gallwch chi wneud hynny drwy beidio â rhoi eich manylion cyswllt.
Os ydych chi'n ansicr neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn penderfynu, cysylltwch â: StudentSupportInterventionTeam@caerdydd.ac.uk
Gall staff hefyd adrodd am achosion o gamymddwyn rhywiol y maent wedi'u profi yn y gweithle. Bydd aelod o'u tîm AD lleol yn eu cefnogi, gan ddarparu cyngor a chanllawiau cyfrinachol ar y gefnogaeth lles sydd ar gael a'r llwybrau datrys, gan gynnwys prosesau adrodd ffurfiol.
Mae’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr hefyd ar gael i staff, gan gynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim a chefnogaeth lles, yn ogystal â mynediad at gwnsela wyneb yn wyneb neu rithwir.
Cyswllt Lles i Fyfyrwyr
Os ydych chi'n ansicr ble i ddechrau ac angen rhywun i siarad â chi, mae ein Cynghorwyr Cyswllt Lles yma i'ch helpu chi ac i'ch cyfeirio at y gefnogaeth gywir. Galwch heibio Canolfan Bywyd y Myfyrwyr o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 16:00, cadwch le drwy’r porth Cyswllt Myfyrwyr, neu ffoniwch +44 (0)29 2251 8888.
Cymorth cymunedol
Gall sefydliadau cymunedol gynnig cymorth arbenigol hefyd:
Gwneud cwyn ffurfiol
Mae gwneud datgeliad drwy Adrodd a Chymorth yn wahanol i godi eich pryderon yn ffurfiol o dan weithdrefnau'r Brifysgol – nid yw'n dechrau proses ymchwilio. Dysgwch sut i wneud cwyn ffurfiol am fyfyriwr neu aelod o’r staff.
Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr yn darparu canllawiau cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar wneud cwyn ffurfiol.
Beth yw trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol
Mae trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn fathau o ymddygiad rhywiol digroeso. Gall ddigwydd i unrhyw un, a chael ei gyflawni gan unrhyw un, waeth beth fo rhywedd, oedran, rhywioldeb neu gefndir yr unigolyn.
Mae dweud “ie” o’ch ewyllys rydd eich hun yn allweddol i bob rhyngweithio rhywiol iach. Cofiwch, nid oes byth bai ar y dioddefwr na'r goroeswr. Y troseddwr yn unig sy'n gyfrifol am ei weithredoedd.
Mae gennych chi’r hawl i reportio aflonyddu rhywiol, cam-drin rhywiol neu drais rhywiol. Mae gennych chi hefyd yr hawl i geisio cymorth, ac i gael eich amddiffyn rhag yr ymddygiad hwn.
Sut gallwch chi gymryd rhan
Ymunwch â ni mewn digwyddiad
- 25 Tachwedd – Lolfa Goffi LHDTC+ yn tynnu sylw at sut mae trais rhywiol yn effeithio ar gymunedau LHDTC+
- 2 Rhagfyr - Stondin Trafod Cydsyniad yn Undeb y Myfyrwyr
Cwblhewch ein hyfforddiant cydsynio a gweld ac ymyrry
Dysgwch ragor am y modiwlau a sut gallwch chi eu cwblhau.
Hyfforddiant Staff Ar Gael
Hyfforddiant wyneb yn wyneb
Modiwlau e-ddysgu
Ffyrdd eraill o gymryd rhan
- Ymunwch â ni am 16 Diwrnod o Weithredu ar Instagram – dilynwch @ cu_centreforstudentlife
- Gallwch chi ddweud eich dweud drwy fod ar ein bwrdd Llais Myfyrwyr ar lawr gwaelod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Rhagor o adnoddau
- Adnoddau trais a cham-drin ar fewnrwyd y myfyrwyr
- Teils gwybodaeth Adrodd a Chymorth
- Cryfach ar y Cyd – gwasanaeth dan arweiniad myfyrwyr mewn cydweithrediad ag Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Maent yn cynnig rhwydwaith cymorth cymunedol i oroeswyr ymosodiad/cam-drin rhywiol ac yn codi ymwybyddiaeth o'r mater parhaus hwn. Dewch o hyd iddyn nhw ar Instagram
- Mae gan y Tîm Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr wybodaeth am drais, cam-drin a pherthnasoedd sydd ddim yn iach.
- Sefydliadau allanol: