Enghreifftiau o'r hyn y gellid ei ystyried yn fwlio ac aflonyddu
Rhoddir enghreifftiau isod o'r hyn y gellir ei ystyried yn fwlio ac aflonyddu. Noder, nid yw’r rhain yn gynhwysfawr.
Bwlio
Mae achwynwyr yn aml yn diffinio bwlio fel rhywbeth digroeso, direswm, wedi'i dargedu, yn barhaus ac sy'n cael effaith andwyol.
Gall bwlio gynnwys achosion mynych o'r ymddygiad neu gamau canlynol wedi'u targedu at unigolion neu grwpiau.
Enghreifftiau
Bwlio
- Ymddygiad ymosodol, bygythiol neu fygylus.
- Lefelau gorchwylio sy'n gormesu ac yn dychryn.
- Dyraniad annheg o waith a chyfrifoldebau neu osod nodau neu dargedau afresymol o ran astudio neu waith.
- Atal unigolyn rhag symud ymlaen drwy atal dyrchafiadau neu gyfleoedd hyfforddi yn fwriadol, gan gyfyngu'n ddireswm ar y dewis o opsiynau astudio neu fynediad at hyfforddiant.
- Gormodedd a/neu feirniadaeth afresymol neu gweld bai ar unrhyw gydweithiwr neu gymar.
- Anwybyddu rhywun, ei eithrio neu'i wthio i'r ymylon.
- Bychanu neu wawdio, boed am waith neu faterion personol.
- Cario clecs neu ledaenu sïon am rywun er mwyn ei bardduo.
- Defnyddio iaith faleisus neu sarhaus.
- Tresmasu ar ofod personol, gwthio, blocio neu wahardd y ffordd.
Seiberfwlio
Gall aflonyddu ar-lein fod ar ffurf negeseuon/postiadau bygythiol, sarhaus neu graffig ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, blogiau, safleoedd hapchwarae ac ystafelloedd sgwrsio, a chyfathrebiadau trwy e-bost, testun, negeseua gwib, neu apiau negeseua. Dyma rai enghreifftiau:
- negeseuon tramgwyddus, difrïol neu fygythiol-hyd yn oed os ydynt wedi eu bwriadu fel jôc
- sylwadau bychanol gyda'r diben o wawdio'r unigolyn
- stelcian ar-lein - anfon negeseuon ailadroddus i fygylu, bygwth neu aflonyddu
- lledaenu clecs difenwol a maleisus a/neu wybodaeth anwir am unigolion boed hynny yn y parth cyhoeddus neu o fewn grŵp cyfyngedig gan gynnwys pan nad yw'r unigolyn o bosibl yn ymwybodol o'r negeseuon tramgwyddus.
Micro-ymosodeddau
Mae micro-ymosodeddau yn cynnwys dibrisiadau neu sarhadau amgylcheddol ar lafar, neu'n yn ddieiriau. Yn fwriadol neu'n anfwriadol, maen nhw’n cyfleu negeseuon gelyniaethus, difrïol neu negyddol i dargedu pobl yn seiliedig ar eu haelodaeth o grwpiau ymylol yn unig. Maen nhw'n broblemus gan eu bod yn aml yn anodd i'w profi neu eu cyfiawnhau.
Weithiau mae micro-ymosodeddau yn cael eu cyflawni'n fwriadol ond yn aml maen nhw’n deillio o ragfarn anymwybodol, ac nid yw unigolion yn gwbl ymwybodol o oblygiadau sarhaus eu geiriau a'u hymddygiad, gan gredu eu bod yn ganmoliaethus.
Gall y mân sarhadau hyn ymddangos yn ddibwys ar y foment, ond pan fyddan nhw’n cael eu profi'n rheolaidd, gallan nhw leihau hyder, lleihau lles, a chael effaith sylweddol ar iechyd meddwl.
Fel rheol trafodir micro-ymosodeddau o safbwynt hil a hiliaeth ond gall unrhyw grŵp ymylol fynd yn darged.
- "Rwyt ti'n drawsrywiol? Yn sicr, dydych chi ddim yn edrych fel eich bod yn draws." - yr awgrym yw nad rhywbeth dymunol yw bod yn draws.
- "Dydw i ddim yn gweld lliw." - gwadu hiliaeth a phrofiadau pobl.
- "Mae'r ffordd rydych wedi delio â'ch anabledd yn anhygoel!" - awgrymu na fyddai pobl anabl yn gallu cyflawni.
Aflonyddu
Gall aflonyddu, p'un a yw'n fwriadol ai peidio, fod ar sawl ffurf wahanol. Os yw ymddygiad o'r fath yn ddifrifol neu'n eang, gall greu amgylchedd gelyniaethus neu ddifrïol. Gallai hyn olygu bod unigolion yn cael budd neu gysylltiad cyfyngedig â'u hamgylchedd, ac yn cael effaith negyddol ar eu lles.
Nid yw'r disgrifiadau canlynol yn gynhwysol, ond maen nhw'n rhoi syniad o'r mathau o ymddygiad sy'n annerbyniol ym marn y Brifysgol:
Aflonyddu rhywiol
Aflonyddwch hiliol
Aflonyddu ar sail anabledd
Aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol
Aflonyddu ar sail hunaniaeth rhyw y person
Aflonyddu ar sail oedran
Aflonyddu ar sail crefydd neu gredo
Gwrth-Semitiaeth
Islamoffobia
Gwaith y Brifysgol neu ddigwyddiadau'n ymwneud ag astudio
Dylai staff a myfyrwyr sy'n mynychu digwyddiadau cysylltiedig â gwaith neu astudio a drefnir gan y Brifysgol, neu a fynychir fel cynrychiolydd y Brifysgol, megis:
- cynadleddau
- digwyddiadau cymdeithasol
- teithiau maes
- digwyddiadau hyfforddiant
sicrhau nad ydyn nhw’n cymryd rhan mewn ymddygiad y gellir ei ddehongli fel aflonyddu neu fwlio, gan gynnwys ymddygiad amhriodol neu sarhaus, o dan y polisi urddas yn y gwaith ac astudio.
Hefyd, gall hefyd gynnwys ymddygiad tuag at bobl nad ydyn nhw’n aelodau o’r Brifysgol (fel ymgeiswyr, contractwyr, cleifion ac aelodau eraill o'r cyhoedd sy'n ymweld â safleoedd y Brifysgol neu’n defnyddio gwasanaethau’r Brifysgol).
Beth nad yw'n fwlio nac aflonyddu
Mae hefyd yn bwysig gwahaniaethu rhwng ymddygiad amhriodol, na fydd yn cael ei oddef, a sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd y mae disgwyl i staff a myfyrwyr eu cael gyda'i gilydd.
Mae trafodaethau teg a thryloyw am faterion yn briodol. Er enghraifft:
- adborth didwyll (a allai gynnwys nodi meysydd gwaith lle y mae unigolyn yn tangyflawni neu'n methu bodloni'r safonau ymddygiad y mae’r Brifysgol yn eu disgwyl); dylai adborth o'r fath fod yn ffeithiol ac yn adeiladol
- cydweithredu parchus a rhannu syniadau a safbwyntiau rhwng unigolion, lle na fydd pobl bob amser yn cytuno: dylid annog trafodaethau a dadleuon adeiladol o'r fath.
Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd