Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso sydd â’r effaith o amharu ar eich urddas, achosi gofid, eich dychryn, a chreu amgylchedd gelyniaethus, diraddol, sy'n bychanu neu'n sarhau (mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd digidol, ar-lein)

Fflachio seiber yw pan fydd rhywun yn anfon delwedd rywiol ddigroeso ar-lein. Mae hwn yn fath o ddinoethi anweddus. Gall ddigwydd drwy neges destun, e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, apiau dod o hyd i gariad, neu apiau negeseuon fel WhatsApp. Gall hefyd ddigwydd drwy offer rhannu ffeiliau fel AirDrop neu Nearby Share, sy'n gadael i bobl anfon delweddau i ddyfeisiau cyfagos, gan gynnwys at ddieithriaid. 

Mae Trais Rhywiol yn cynnwys gweithredoedd fel treisio, ymosodiad rhywiol, ac unrhyw weithgarwch rhywiol arall dan orfod neu heb gydsyniad, yn ddiweddar neu heb fod yn ddiweddar.

Gallwch gysylltu â'ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) leol am gymorth a gofal brys yn y dyddiau yn dilyn treisio neu ymosodiad rhywiol. Fel arfer, darperir SARCs gan y GIG a gallant gynnig cefnogaeth feddygol ac ymarferol gyfrinachol, gan gynnwys cadw tystiolaeth fforensig. Mae manylion eich SARC agosaf yng Nghymru neu Loegr i'w cael yma: SARCs | Rape Crisis Cymru a Lloegr. I gael cyngor pellach ar ôl ymosodiad rhywiol ewch i'n tudalennau cymorth.

Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel a bod cymorth ar gael yn y gwaith ac wrth astudio.

Nid ydyn ni’n goddef ymddygiad rhywiol amhriodol (a all gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddefnyddio trais, meithrin perthynas amhriodol, camymddwyn ac aflonyddu). Mae ymddygiad o’r fath yn erbyn y gyfraith. Os cawn wybod am achos o ymddygiad rhywiol amhriodol, byddwn yn ei gymryd o ddifrif, ac mae cymorth ar gael i unrhyw un sy’n profi’r fath ymddygiad.

Fodd bynnag, nid yw'r polisi hwn yn ymwneud yn unig â'r hyn sy'n digwydd ar ôl i rywbeth ddigwydd. Mae hefyd yn ymwneud â'r rôl bwysig y gall pob un ohonom ei chwarae i atal rhywbeth rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae'n rhaid i chi ymgyfarwyddo â'n polisi Camymddwyn Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol, gan fod disgwyl i’r holl staff a myfyrwyr gydymffurfio ag ef.

Dylech chi hefyd ddarllen y weithdrefn a'r canllawiau cysylltiedig.

Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn esbonio ein disgwyliadau, eich cyfrifoldebau a'n gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion. Maen nhw hefyd yn cynnwys diffiniadau o'r termau sy’n cael eu trafod.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd