Mae camymddwyn rhywiol neu aflonyddu rhywiol yn cynnwys unrhyw ymddygiad o natur rywiol nad yw'n cael ei groesawu, sydd ag effaith o danseilio eich urddas, achosi gofid, eich dychryn neu greu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, bychanu neu dramgwyddus. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad sy'n digwydd mewn amgylcheddau digidol ac ar-lein.
Beth yw Fflachio Ar-lein (Cyber Flashing)?
Mae fflachio ar-lein yn digwydd pan fydd rhywun yn anfon delwedd rywiol ddigroeso atoch ar-lein. Mae hwn yn fath o ddatguddiad anweddus. Gall ddigwydd drwy neges destun, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, apiau dyddio neu apiau negeseuon fel WhatsApp. Gall hefyd ddigwydd drwy offer rhannu ffeiliau fel AirDrop neu Nearby Share, sy'n galluogi pobl i anfon delweddau at ddyfeisiau cyfagos, gan gynnwys at ddieithriaid.
Trais Rhywiol
Mae trais rhywiol yn cynnwys gweithredoedd fel treisio, ymosodiad rhywiol ac unrhyw weithgaredd rhywiol arall sy'n cael ei orfodi neu sy'n digwydd heb gydsyniad, boed yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl.
Gallwch gysylltu â'ch Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (Sexual Assault Referral Centre – SARC) leol i gael cymorth a gofal brys yn y dyddiau yn dilyn treisio neu ymosodiad rhywiol. Darperir SARCs fel arfer gan y GIG a gallant gynnig cymorth meddygol ac ymarferol cyfrinachol, gan gynnwys cadw tystiolaeth fforensig.
Gallwch ddod o hyd i fanylion eich SARC agosaf yng Nghymru neu Loegr yma:
I gael rhagor o gyngor yn dilyn ymosodiad rhywiol, ewch i'n tudalennau cymorth.
Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn y gwaith neu wrth astudio.
Os oes angen cymorth brys arnoch, cliciwch yma
Immediate advice after a sexual assault - Report + Support - Cardiff University
Os ydych yn profi camymddwyn rhywiol neu aflonyddu rhywiol
Anogir chi i roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol a/neu gamymddwyn rhywiol cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, nid oes terfyn amser, a gellir rhoi gwybod am achosion fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach.
Pan fyddwch yn gwneud atgyfeiriad neu adroddiad
Mae llawer o resymau pam y gallech deimlo'n ansicr ynghylch rhoi gwybod i ni am ddigwyddiad rydych wedi'i brofi neu ei weld.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn cymryd pob honiad o ddifrif, waeth beth fo swydd neu statws y rhai sy'n gysylltiedig ag ef, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o ddial yn erbyn unigolyn sy'n gwneud cwyn o dan y polisi hwn.
Atgyfeiriadau gan Fyfyrwyr
Fel myfyriwr, byddwch yn cael eich cefnogi gan y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr (SSIT), oni bai eich bod yn gwneud datgeliad yn ddienw. Bydd hyn yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydych am ddechrau cwyn ffurfiol, a bydd y trafodaethau cychwynnol yn cael eu cynnal yn gyfrinachol. Bydd unrhyw ymchwiliad dilynol yn cael ei reoli'n deg ac yn sensitif.
Gall myfyrwyr ddewis rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiad yn ddienw neu drwy ddarparu eu manylion. Gall Ymarferwyr Arbenigol y Tîm SSIT eu cefnogi i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen, yn ogystal â darparu cymorth ar gyfer unrhyw effaith ar eu hiechyd meddwl neu eu llesiant.
Adroddiadau gan Staff
Gall aelodau staff ddewis rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiad yn ddienw neu drwy ddarparu eu manylion. Os rhoddir manylion cyswllt, byddant yn cael eu cefnogi gan eu tîm Adnoddau Dynol lleol ynghylch y camau nesaf, ac fe'u hanogir i ddefnyddio'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar gyfer unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag iechyd meddwl neu lesiant.
Defnyddiwch Adrodd a Chymorth (Report + Support) i roi manylion eich profiad i ni, a byddwn yn eich cefnogi drwy'r camau gweithredu y byddwch yn dewis eu dilyn.