Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu'n llai ffafriol na rhywun arall oherwydd nodwedd warchodedig, gallai gwahaniaethu fod wedi digwydd.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw nodwedd warchodedig:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw

Gall gwahaniaethu ddigwydd yn unrhyw le, ac mae’n digwydd ar wahanol ffurfiau. Cewch ragor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o wahaniaethu, gan Race Council Cymru a Diverse Cymru.

Mathau o wahaniaethu

Gwahaniaethu uniongyrchol

Mae hyn yn golygu trin un person yn llai ffafriol na pherson arall oherwydd nodwedd warchodedig.

Enghreifftiau o wahaniaethu uniongyrchol

  • Daw cyfle lleoliad gwaith ar gael. Mae’r cynorthwyydd addysgu’n credu bod cof pobl yn gwaethygu wrth iddyn nhw heneiddio, felly nid yw’n rhoi gwybod i un o’i fyfyrwyr hŷn am y cyfle gan nad yw’n credu bod ganddo’r gallu i wneud y swydd.
  • Rydych chi’n feichiog ac yn ymgeisio am ddyrchafiad yn y gwaith. Mae eich cyflogwr yn penderfynu peidio â rhoi dyrchafiad i chi, er mai chi yw’r ymgeisydd gorau, gan nad ydyn nhw eisiau talu’r gyfradd uwch am eich absenoldeb mamolaeth.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae modd i hyn ddigwydd pan fydd sefydliad yn gweithredu rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau sydd ag effaith waeth ar rywun sydd â nodwedd warchodedig nag ar rywun heb un.

Enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol

  • Mae triniwr gwallt yn gwrthod cyflogi steilwyr sy’n gorchuddio eu gwallt. Byddai unrhyw ferch Fwslimaidd neu ddyn Sikhaidd o dan anfantais wrth ymgeisio am swydd.
  • Mae cyflogwr yn penderfynu newid patrymau sifft staff fel eu bod yn gorffen am 5pm yn lle 3pm. Gallai cyflogeion benywaidd â chyfrifoldebau gofal fod o dan anfantais os bydd y patrwm sifft newydd yn golygu nad oes modd iddyn nhw gasglu eu plant o'r ysgol neu leoliad gofal plant.

Aflonyddu

Mae hyn yn golygu na all pobl eich trin mewn ffordd sy’n tarfu ar eich urddas neu sy’n creu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus.

Enghreifftiau o aflonyddu

  • Mae person sydd wedi mynd trwy’r broses ailbennu rhywedd o wryw i fenyw yn cael diod mewn tafarn gyda ffrindiau ac mae’r landlord yn dal i'w galw'n 'syr' neu'n 'ef' wrth weini diodydd, er iddi gwyno amdano.
  • Mae darlithydd prifysgol yn gwneud jôcs rhywiol i un o'i fyfyrwyr benywaidd ac yn awgrymu y bydd hi'n pasio ei harholiadau petai hi'n cysgu gydag ef.

Erledigaeth

Mae hyn yn golygu na all pobl eich trin yn annheg os ydych chi’n cymryd camau yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb (fel gwneud cwyn am wahaniaethu), neu os ydych chi'n cefnogi rhywun arall sy'n gwneud hynny.

Enghreifftiau o erledigaeth

  • Rydych chi’n gwneud cwyn am aflonyddu rhywiol yn eich cwrs ac rydych chi’n cael eich graddio’n annheg oherwydd y gŵyn.
  • Mae eich cydweithiwr yn cwyno am gael ei alw'n 'grychlyd' yn y gwaith. Rydych chi’n helpu’r person i gwyno i’ch rheolwr. Mae eich rheolwr yn eich trin chi’n wael o ganlyniad i hynny.

Ymddygiad a safonau

Mae'r Brifysgol yn disgwyl i holl aelodau cymuned y Brifysgol drin ei gilydd â pharch, cwrteisi ac ystyriaeth bob amser. Os byddwch chi’n rhoi gwybod i ni am unrhyw ymddygiad annerbyniol sydd wedi effeithio arnoch, gallwn ni helpu i fynd i'r afael â hyn a chymryd y camau gweithredu mwyaf priodol (ar ôl i chi roi eich caniatâd a chytuno i hynny).

Gellir gweld yr wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd