Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu'n llai ffafriol na rhywun arall oherwydd nodwedd warchodedig, gallai hyn fod yn wahaniaethu.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw nodwedd warchodedig:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Gall gwahaniaethu ddigwydd yn unrhyw le ac mewn sawl ffurf wahanol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o wahaniaethu, gan Race Council Cymru: https://racecouncilcymru.org.uk a Diverse Cymru: https://www.diverse.cymru.
Mathau o Wahaniaethu
Gwahaniaethu Uniongyrchol
Mae hyn yn golygu trin un person yn waeth na pherson arall oherwydd nodwedd warchodedig.
Enghreifftiau o Wahaniaethu Uniongyrchol
Mae cyfleoliad gwaith yn dod ar gael. Mae'r cynorthwyydd addysgu yn credu bod cof pobl yn gwaethygu wrth iddynt heneiddio, felly nid yw'n dweud wrth un o'i fyfyrwyr hŷn am y cyfle oherwydd ei fod yn meddwl na fyddent yn gallu gwneud y swydd.
Rydych yn feichiog ac yn gwneud cais am ddyrchafiad yn y gwaith. Mae eich cyflogwr yn penderfynu peidio â'ch dyrchafu, er mai chi yw'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd, oherwydd nad yw am dalu'r gost ychwanegol sy'n gysylltiedig â'ch absenoldeb mamolaeth.
Gwahaniaethu Anuniongyrchol
Gall hyn ddigwydd pan fydd sefydliad yn cyflwyno rheol, polisi neu ffordd o weithio sy'n cael effaith fwy niweidiol ar rywun sydd â nodwedd warchodedig na rhywun nad oes ganddo'r nodwedd honno.
Enghreifftiau o Wahaniaethu Anuniongyrchol
Mae salon trin gwallt yn gwrthod cyflogi steilwyr sy'n gorchuddio eu gwallt eu hunain. Gallai hyn roi menywod Mwslimaidd neu ddynion Sikhaidd sy'n gorchuddio eu gwallt dan anfantais wrth wneud cais am swydd fel steilydd.
Mae cyflogwr yn penderfynu newid patrymau sifft staff fel eu bod yn gorffen am 5.00pm yn hytrach na 3.00pm. Gallai gweithwyr benywaidd sydd â chyfrifoldebau gofalu fod dan anfantais os yw'r sifft newydd yn golygu na allant gasglu eu plant o'r ysgol neu ofal plant.
Aflonyddu
Mae hyn yn golygu na chaiff pobl eich trin mewn ffordd sy'n tanseilio eich urddas neu sy'n creu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, bychanu neu dramgwyddus.
Enghreifftiau o Aflonyddu
Mae person sydd wedi cael ailbennu rhywedd o ddyn i fenyw allan gyda ffrindiau mewn tafarn. Mae'r landlord yn parhau i'w galw'n "syr" neu'n defnyddio'r rhagenw "ef" wrth ei gwasanaethu, er ei bod wedi cwyno am hyn.
Mae darlithydd prifysgol yn gwneud jôcs rhywiol wrth un o'i fyfyrwyr benywaidd ac yn awgrymu y bydd hi'n pasio ei harholiadau os bydd yn cael perthynas rywiol ag ef.
Erledigaeth
Mae hyn yn golygu na chaiff pobl eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn cymryd camau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (megis gwneud cwyn am wahaniaethu), neu oherwydd eich bod yn cefnogi rhywun arall sy'n gwneud hynny.
Enghreifftiau o Erledigaeth
Rydych yn gwneud cwyn am aflonyddu rhywiol ar eich cwrs ac, o ganlyniad i'r gŵyn, rydych yn cael eich marcio'n annheg.
Mae eich cydweithiwr yn cwyno am gael ei alw'n "grychlyd" yn y gwaith. Rydych yn ei helpu i wneud cwyn i'ch rheolwr, ac mae'r rheolwr yn eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi cymryd rhan.
Ymddygiad a Safonau
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i bob aelod o gymuned y Brifysgol drin ei gilydd â pharch, cwrteisi ac ystyriaeth bob amser. Os ydych wedi profi ymddygiad annerbyniol ac yn rhoi gwybod i ni amdano, gallwn eich helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa a chymryd y camau mwyaf priodol (gyda'ch caniatâd a'ch cytundeb).
Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Gwahaniaethu - Mewnrwyd myfyrwyr - Prifysgol Caerdydd
Cymorth sydd ar Gael
Eich dewis chi yw a ydych yn dweud wrth rywun am eich profiad, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl bod cymorth ar gael.
Cymorth Brys
Mewn argyfwng, dylech ffonio 999 a rhoi gwybod i Ddiogelwch y Brifysgol drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444.
Mewn sefyllfa nad yw'n argyfwng
Efallai yr hoffech:
- Roi gwybod i Heddlu De Cymru drwy ffonio 101 i wneud cwyn neu drafod pryderon diogelwch yn anffurfiol.
- Gael cyngor a gwybodaeth gan y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar Gydraddoldeb (Equality Advisory Support Service): https://www.equalityadvisoryservice.com. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth i unrhyw un sydd wedi profi gwahaniaethu mewn cyflogaeth, tai, addysg, trafnidiaeth ac mewn achosion lle y gallech fod wedi profi gwahaniaethu wrth ddefnyddio neu brynu nwyddau a gwasanaethau. Gall hefyd ddarparu cyngor a gwybodaeth am faterion hawliau dynol.
- Cysylltu â llinell gymorth ACAS: https://www.acas.org.uk am gyngor a gwybodaeth gyfrinachol am ddim ynghylch hawliau yn y gweithle, rheolau, arferion gorau, gan gynnwys gwahaniaethu yn y gweithle.
Cymorth gan y Brifysgol i Fyfyrwyr
Gallwch gael cymorth gan Dîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr y Brifysgol (Student Support Intervention Team). Gall y tîm ddarparu gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys:
- rheoli eich diogelwch os yw hyn yn bryder uniongyrchol;
- cymorth ymarferol gyda materion tai, ariannol ac academaidd, gan gynnwys gwybodaeth benodol am beth i'w wneud os ydych yn byw neu'n astudio gyda rhywun sydd wedi bod yn dreisgar neu'n gamdriniol;
- eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol;
- egluro'r opsiynau ar gyfer adrodd a darparu cymorth wrth wneud adroddiad;
- egluro gweithdrefnau cwyno'r Brifysgol.
I gael cymorth gan y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr, cyflwynwch eich manylion drwy Adrodd a Chymorth: https://reportandsupport.cardiff.ac.uk.
Os yw'n well gennych wneud datgeliad heb rannu eich manylion personol, gallwch wneud hynny hefyd drwy Adrodd a Chymorth: https://reportandsupport.cardiff.ac.uk. Sylwer na fydd y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr yn gallu cynnig apwyntiad i chi os byddwch yn dewis gwneud datgeliad yn ddienw.
Cymorth sydd ar Gael i Staff
Mae mewnrwyd y staff yn darparu amrywiaeth o opsiynau llesiant megis:
- y Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Employee Assistance Programme): https://www.healthassuredeap.co.uk
- cysylltiadau urddas a llesiant
- gwasanaethau iechyd galwedigaethol
Bydd eich rheolwr, Pennaeth Ysgol/Gwasanaeth a'ch tîm Adnoddau Dynol lleol hefyd yn gallu eich cefnogi yn ystod y cyfnod hwn, os hoffech gysylltu â nhw. Yn ogystal â hyn, mae cymorth ar gael gan yr Undebau Llafur.
Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: https://intranet.cardiff.ac.uk/students.