Sut i adnabod arwyddion trais a cham-drin

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r ffyrdd amrywiol mae trais, cam-drin a pherthnasoedd nad ydynt yn iach yn gallu datblygu.

Gall trais a cham-drin ddigwydd i bobl o bob oedran, rhywiau, rhywioldeb, a chefndir diwylliannol, cymdeithasol ac ethnig.

Rydym yn defnyddio trais a cham-drin fel termau i ddisgrifio mathau gwahanol o ymddygiad, gan gynnwys:

  • perthnasoedd camdriniol neu afiach
  • treisio, ymosodiad rhywiol a thrais rhywiol
  • trais yn ymwneud â rhyw
  • aflonyddu
  • trosedd casineb
  • bwlio
  • unrhyw ymddygiad annerbyniol arall

Mae'n bwysig cydnabod arwyddion o'r gwahanol fathau hyn o drais a cham-drin.

Perthnasoedd camdriniol neu afiach 

Mae’n gallu bod yn anodd nodi arwyddion perthynas afiach, yn enwedig o ran eich perthynas chi. Mae pawb yn haeddu bod mewn perthynas ddiogel ac iach.

Os nad ydych yn teimlo bod eich perthynas yn ddiogel, yn gyfforddus neu’n gariadus, gallai hyn olygu nad yw’n berthynas iach. Mae'n bosibl hefyd eich bod yn profi trais a cham-drin.

Mae arwyddion perthynas afiach yn cynnwys:

  • mae eich partner yn mynnu rheolaeth neu’n feddiannol
  • mae eich partner yn gwneud hwyl arnoch neu’n feirniadol
  • mae rhywun yn eich camddefnyddio
  • mae rhywun yn codi ofn arnoch
  • mae rhywun yn eich bygwth
  • mae eich partner yn eich cadw ar wahân i ffrindiau eraill neu deulu, neu’n rhwystro pwy y gallwch ei weld
  • rydych yn dioddef trais corfforol neu rywiol.

Treisio, ymosodiad rhywiol a thrais rhywiol 

Trais ac ymosodiadau rhywiol

Gall trais rhywiol ddigwydd o fewn perthynas neu y tu allan iddi. Ystyrir bod cael rhyw heb ganiatâd rhywun oherwydd cyffuriau, alcohol neu anymwybyddiaeth yn drais rhywiol ac yn ymosodiad drwy dreiddio.

Gellir ond rhoi caniatâd ar sail y canlynol:

  • mae gan rywun y gallu i roi ei ganiatâd
  • mae rhywun yn rhydd i wneud y dewis i roi caniatâd.

Ystyrir mai ymosodiad rhywiol yw cyffwrdd digroeso sy’n rhywiol ei natur.

Ymosodiad rhywiol mewn perthynas

Nid yw bod gyda rhywun yn pennu eich caniatâd i gyflawni gweithred rywiol gyda rhywun.

Gydag unrhyw gyfathrach rywiol, dylai fod gan bawb y rhyddid a’r gallu i ddewis cymryd rhan, a allai fod yn amhosibl os yw rhywun o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Mae caniatâd yn rhywbeth y dylid ei roi, a gellir ei gymryd yn ôl ar unrhyw adeg.

Aflonyddu rhywiol a stelcio

Mae aflonyddu rhywiol yn ffordd ddigroeso o ymddwyn sy’n rhywiol ei natur, ac fe all gynnwys cyffwrdd a chusanu digroeso ac ymddygiad geiriol a di-eiriau.

Gall aflonyddu ddigwydd wyneb yn wyneb, ar-lein, neu drwy ddulliau eraill megis stelcio.

Mae enghreifftiau o stelcio yn cynnwys dilyn, gwylio neu ysbïo ar rywun, neu orfodi cyswllt mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Mathau eraill o drais rhywiol

Mae mathau eraill o drais rhywiol yn cynnwys:

  • cam-fanteisio’n rhywiol, masnachu a chaethwasiaeth
  • rhannu delweddau/fideos rhywiol heb ganiatâd
  • cribddeiliaeth rywiol
  • porn dial.

Trais yn ymwneud â rhyw 

Mae menywod yn cael eu heffeithio'n fwy gan drais a cham-drin o'u cymharu â dynion. Felly, mae trais ar sail rhywedd yn derm penodol a ddefnyddir i ddisgrifio trais yn erbyn menywod a merched.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

  • cam-drin perthynas (trais yn y cartref)
  • trais ac ymosodiadau rhywiol
  • aflonyddu rhywiol a stelcio
  • priodas orfodol
  • trais ar sail anrhydedd
  • anffurfio organau cenhedlu menywod
  • masnachu pobl a phuteindra
  • cam-fanteisio rhywiol (gan gynnwys drwy’r diwydiant rhyw)
  • rheolaeth orfodol
  • cribddeiliaeth rywiol (defnyddio gwe-gamera i flacmelio rhywun).

Sut mae trais a cham-drin yn cael eu profi

Mae trais a cham-drin yn aml yn cynnwys nifer o ffyrdd o ymddwyn yn ymosodol neu mewn modd sy’n ceisio rheoli eraill a gallant gael eu defnyddio ar yr un pryd, yn fwriadol, er mwyn rheoli unigolyn arall neu gadw grym drosto.

Anaml y bydd yn ddigwyddiad unwaith, ac fel arfer bydd yn gwaethygu dros amser. Os yw'r unigolyn yn profi digwyddiad unwaith, mae’n debygol y bydd y camdriniwr yn ei wneud eto, ac yn ei wneud i bobl eraill.

Mae'r bobl sy'n gyfrifol am drais a cham-drin yn debygol o adnabod y person sy'n ei brofi, gan gynnwys ffrindiau, cydnabyddwyr, partneriaid ac aelodau o'r teulu.

Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd