Cydnabod troseddau casineb
Mae Trosedd Casineb yn digwydd pan fyddwch chi, neu rywun arall, yn credu eich bod yn cael eich targedu â ymddygiad treisgar / sarhaus neu droseddol oherwydd eich hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol – gelwir y rhain yn 'nodweddion gwarchodedig'
- hil neu hil dybiedig
- crefydd neu grefydd dybiedig
- cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig
- anabledd neu anabledd tybiedig
- hunaniaeth drawsryweddol neu hunaniaeth drawsryweddol dybiedig
Gall trosedd neu ddigwyddiad casineb gynnwys:
- cam-drin geiriol, ymddygiad bygythiol, bygythiadau, aflonyddu, ymosod a bwlio.
- galwadau ffug, negeseuon ffôn neu negeseuon testun difrïol, post casineb
- aflonyddu neu gam-drin ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol, apiau detio neu ebost
- cam-drin ysgrifenedig, fel graffiti, dangos neu rannu llenyddiaeth neu bosteri gwahaniaethol.
- ymosodiadau corfforol fel taro, dyrnu, gwthio, poeri
- difrod i eiddo fel graffiti, llosgi bwriadol
- negeseuon sy’n galw am drais yn erbyn unigolyn neu grŵp penodol
- micro-ymosodeddau (rhyngweithiadau byr, bob dydd sy'n anfon negeseuon difrïol am rai grwpiau di-oed mewn cymdeithas)
- person sy'n gwneud cwynion maleisus amdanoch chi, er enghraifft i'ch darparwr tai, cyngor lleol, yr heddlu, neu fan astudio neu waith.
Ymddygiadau a safonau
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i bob aelod o gymuned y Brifysgol drin ei gilydd â pharch, cwrteisi ac ystyriaeth bob amser. Os ydych wedi profi ymddygiad annerbyniol ac yn rhoi gwybod i ni am hyn, gallwn helpu i fynd i'r afael â hyn a chymryd y camau gweithredu mwyaf priodol (gyda'ch caniatâd a'ch cytundeb). Cymorth gan y Brifysgol i Fyfyrwyr
Gallwch gael cymorth gan Dîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr y Brifysgol (Student Support & Intervention Team). Gall y tîm ddarparu gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys:
- rheoli eich diogelwch os yw hyn yn bryder uniongyrchol;
- cymorth ymarferol gyda materion tai, ariannol ac academaidd, gan gynnwys gwybodaeth benodol am beth i'w wneud os ydych yn byw neu'n astudio gyda rhywun sydd wedi bod yn dreisgar neu'n gamdriniol;
- eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol;
- egluro'r opsiynau ar gyfer adrodd a darparu cymorth wrth wneud adroddiad;
- egluro gweithdrefnau cwyno'r Brifysgol.
I gael cymorth gan y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr, cyflwynwch eich manylion drwy Adrodd a Chymorth: https://reportandsupport.cardiff.ac.uk.
Os yw'n well gennych wneud datgeliad heb rannu eich manylion personol, gallwch wneud hynny hefyd drwy Adrodd a Chymorth: https://reportandsupport.cardiff.ac.uk. Sylwer na fydd y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr yn gallu cynnig apwyntiad i chi os byddwch yn dewis gwneud datgeliad yn ddienw.
Cymorth sydd ar Gael i Staff
Mae mewnrwyd y staff yn darparu amrywiaeth o opsiynau llesiant, megis:
- y Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Employee Assistance Programme);
- cysylltiadau urddas a llesiant;
- gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
Bydd eich rheolwr, Pennaeth Ysgol/Gwasanaeth a'ch tîm Adnoddau Dynol lleol hefyd yn gallu eich cefnogi yn ystod y cyfnod hwn os hoffech gysylltu â nhw. Yn ogystal â hyn, mae cymorth ar gael gan yr Undebau Llafur.
Gwasanaethau Cymorth Allanol
Mewn argyfwng, dylech ffonio 999 a rhoi gwybod i Dim Ddiogelwch y Brifysgol drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444.
Mewn sefyllfa nad yw'n argyfwng
Efallai yr hoffech:
- roi gwybod am drosedd casineb i dîm Trosedd Casineb Victim Support, sef y ganolfan adrodd trydydd parti swyddogol ar gyfer Cymru. Mae ganddynt hefyd dîm o staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbenigol ledled Cymru ac sy'n gallu cynnig cymorth cyfrinachol am ddim. Rhagor o wybodaeth: https://www.victimsupport.org.uk/help-and-support/get-help/support-near-you/wales/hate-crime/
- rhoi gwybod i Heddlu De Cymru drwy ffonio 101 i wneud cwyn neu drafod pryderon diogelwch yn anffurfiol;
- os ydych yn uniaethu fel person LGBT+, gallwch gysylltu ag Umbrella Cymru, elusen sy'n cynnig gwasanaethau cymorth ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys trosedd casineb, i unrhyw un o'r gymuned LGBT+ sy'n byw yn Ne Cymru. Gwefan: https://umbrellacymru.co.uk.
Adnoddau Dysgu
Gallwch ddarllen am ymgyrch Casineb sy'n Brifo Cymru Llywodraeth Cymru a gwylio fideos ar sianel YouTube Llywodraeth Cymru.
Ymgyrch Casineb sy'n Brifo Cymru:
https://www.gov.wales/hate-hurts-wales
Sianel YouTube Llywodraeth Cymru:
https://www.youtube.com/@WelshGovernment
Mae Citizens Advice yn darparu ystod o wybodaeth am droseddau casineb a digwyddiadau casineb:
https://www.citizensadvice.org.uk.
Gallwch hefyd ymweld â sianel YouTube Victim Support i wylio fideos gwybodaeth am wahanol fathau o droseddau casineb:
https://www.youtube.com/@VictimSupportUK
Marc Ymddiriedaeth Siarter Trosedd Casineb Victim Support
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth agos â Thîm Trosedd Casineb Victim Support, ac fe ddyfarnwyd Marc Ymddiriedaeth y Siarter iddynt ar 27 Gorffennaf 2021 fel symbol o ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i Siarter Trosedd Casineb Victim Support.
Mae'r Siarter hon yn nodi arferion gorau i sefydliadau wrth weithio gyda dioddefwyr a goroeswyr troseddau casineb, gan sicrhau bod eu hawliau wrth wraidd y cymorth a ddarperir.
Dyfarnwyd y Marc Ymddiriedaeth oherwydd bod Victim Support wedi cydnabod bod gan Brifysgol Caerdydd wasanaethau cymorth helaeth ar gyfer myfyrwyr sy'n profi troseddau casineb, a bod gwerthoedd y gwasanaethau hyn yn cyd-fynd â'r Siarter Trosedd Casineb, gan gynnwys:
- yr hawl i gael eich clywed;
- yr hawl i gael eich trin â pharch;
- yr hawl i gael gwybodaeth am droseddau casineb, sut i gael cymorth, a sut y gellir rhoi gwybod am droseddau casineb (os dymunir).
Cydnabu Victim Support hefyd fod Prifysgol Caerdydd wedi trefnu a chyd-hwyluso sesiynau hyfforddi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ar gyfer staff ar draws gwahanol adrannau, gan gynyddu gwybodaeth aelodau staff am sut i adnabod troseddau casineb a'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr neu aelodau staff sy'n profi troseddau casineb.
Mae'r Marc Ymddiriedaeth hwn yn amlygu ymrwymiad parhaus Prifysgol Caerdydd i fynd i'r afael â throseddau casineb ac i godi ymwybyddiaeth ohonynt.
Nid yw Prifysgol Caerdydd yn goddef unrhyw fath o gasineb.
Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd