Efallai y byddwch yn gweld y termau atgyfeiriad myfyriwr ac adroddiad staff yn cael eu defnyddio ar draws y wefan hon, ac efallai y byddwch hefyd yn clywed aelodau o staff y Brifysgol yn cyfeirio atynt. Mae'n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y ddau.

Atgyfeiriad Myfyriwr

Gellir gwneud atgyfeiriad myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw bryderon iechyd meddwl brys neu unrhyw fathau o drais a chamdriniaeth.

Gellir gwneud atgyfeiriad myfyriwr:

  • gan fyfyriwr amdano'i hun;
  • gan fyfyriwr am fyfyriwr arall;
  • gan aelod o staff am fyfyriwr;
  • gan barti allanol, megis aelod o'r teulu, ffrind neu aelod o'r cyhoedd, am fyfyriwr.

Defnyddir atgyfeiriad myfyriwr yn unig i helpu'r myfyriwr i gael mynediad at gymorth. Nid yw'n cychwyn proses ymddygiad nac achwyniad. Bydd yr Ymarferwyr Arbenigol yn y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr (SSIT) yn cynnig cymorth ac yn rhoi'r amser a'r lle i chi wneud penderfyniad gwybodus ynghylch unrhyw gamau nesaf.

Mewn sefyllfaoedd lle mae atgyfeiriad yn dangos bod angen cymorth iechyd meddwl brys ar fyfyriwr, mae rhai amgylchiadau lle gall fod angen i'r SSIT gymryd camau ar unwaith. Lle bynnag y bo'n bosibl, gwneir hyn gyda gwybodaeth flaenorol y myfyriwr, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl nac yn briodol. Gall y camau hyn gynnwys cysylltu â'r gwasanaethau brys neu wasanaethau statudol, Diogelwch y Brifysgol neu gyswllt dibynadwy'r myfyriwr.

Mae diagramau llif sy'n egluro'r broses atgyfeirio myfyrwyr ar gael yma: [mewnosod dolen].

Dim ond os bydd y myfyriwr yn dewis gwneud hynny y bydd atgyfeiriad myfyriwr yn dod yn adroddiad ffurfiol o gwyn neu broses ymddygiad. Os hoffech gymryd y cam hwnnw, gweler sut i wneud hynny yma: Student complaints - Student intranet - Cardiff University

Adroddiad Staff

Gellir gwneud adroddiadau staff mewn perthynas â bwlio, gwahaniaethu, aflonyddu rhywiol a mathau eraill o gamymddwyn rhywiol.

Gellir gwneud adroddiad staff:

  • gan aelod o staff amdano'i hun;
  • gan aelod o staff am aelod arall o staff;
  • gan fyfyriwr am aelod o staff;
  • gan barti allanol, megis aelod o'r teulu, ffrind neu aelod o'r cyhoedd, am aelod o staff.

Nid yw'r adroddiadau hyn yn sbarduno'r broses gwyno ffurfiol yn awtomatig. Fodd bynnag, cânt eu brysbennu i'r Adran Adnoddau Dynol (AD) i'w hadolygu. Gall AD gynnal ymchwiliad yn unol â gweithdrefnau staff, yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarperir, a gellir trafod prosesau ffurfiol gyda'r cydweithiwr AD os byddwch yn darparu eich manylion cyswllt.

Os hoffech ddeall sut mae adrodd yn ddienw yn gweithio, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd yma: Privacy Notice - Report + Support - Cardiff University

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd