Iechyd Meddwl
Y Samariaid - Gwasanaeth cymorth mewn argyfwng ichi gael siarad am unrhyw beth sy'n eich poeni.
FFONIWCH y llinell wrando iechyd meddwl - Llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol gyfrinachol sydd ar agor 24/7.
Talk Campus - safle rhwydweithio cymdeithasol sy’n lle diogel i siarad yn ddienw am unrhyw beth heb i neb eich barnu. Lawrlwythwch ap TalkCampus o'r Siop Apiau neu Google Play a chofrestrwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost @caerdydd.ac.uk neu ffoniwch eu llinell argyfwng: +44 (0)800 031 8813.
Mind - Gall y gwasanaeth hwn eich helpu i ddod o hyd i gymorth lleol yn ogystal â rhoi gwybodaeth am broblemau a thriniaethau iechyd meddwl.
Gofal Profedigaeth Cruse- Cefnogaeth gyfrinachol sy’n rhad ac am ddim i oedolion a phlant yn dilyn profedigaeth.
HOPELINE247 - cymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol 24/7 i bobl ifanc o dan 35 oed sy'n meddwl am hunanladdiad ac i unrhyw un sy'n pryderu bod person ifanc yn meddwl hwyrach am hunanladdiad. Ffôn: 0800 068 4141 Testun: 07860039967
myf.cymru- adnodd iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr addysg uwch sy’n siarad Cymraeg ac yn astudio yng Nghymru a thu hwnt.
Trais a Cham-drin
Rhoi gwybod am drosedd casineb – Trosedd Gasineb Cymru - dyma'r ganolfan adrodd swyddogol yng Nghymru i drydydd partïon. Mae ganddynt hefyd dîm o staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ledled Cymru a all hefyd gynnig cymorth cyfrinachol am ddim
Cymorth i Ddioddefwyr De Cymru
The Survivors Trust - Rape & Sexual Abuse Services UK
Gwasanaethau cymorth argyfwng trais a cham-drin rhywiol New Pathways
Canolfan Argyfwng a Thrais Cymru a Lloegr:gweler y wefan am restr o ganolfannau argyfwng trais. Hefyd i weld gwybodaeth a chyngor ymarferol.
Llinell Gymorth Sgwrs Fyw Argyfwng Trais: gwasanaeth cyfrinachol am ddim a dienw yw'r Llinell Gymorth Sgwrsio Fyw. Caiff menywod a merched 16+ oed sydd wedi cael eu treisio neu’n destun cam-drin rhywiol neu unrhyw fath o drais rhywiol ddefnyddio'r llinell gymorth i gael cymorth emosiynol ar-lein. Mae ar agor ar wahanol adegau rhwng dydd Llun a dydd Gwener, gweler y ddolen am y manylion.
Cam-drin Domestig
Byw Heb Ofn - Cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am gam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod yng Nghymru. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn rhoi cymorth ac arweiniad drwy’r dydd a’r nos 7 diwrnod yr wythnos. info@livefearfreehelpline.wales neu ffoniwch +44(0)808 8010 800.
ManKind Initiative - Cefnogi Dioddefwyr Gwrywaidd Cam-drin Domestig
Y Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol: 0808 2000 247
Hollie Guard:datblygwyd Hollie Guard gan Ymddiriedolaeth Hollie Gazzard sy'n helpu i leihau cam-drin domestig.
Cymorth i Fenywod: yw'r elusen trais domestig genedlaethol sy'n helpu hyd at 250,000 o fenywod a phlant bob blwyddyn. Rydyn ni’n gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a phlant ac yn cefnogi mwy na 500 o wasanaethau trais domestig a rhywiol ledled y wlad.
Stelcio
Y Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol: Cyngor a gwybodaeth ymarferol i unrhyw un y mae aflonyddu neu stelcian yn effeithio arno ar hyn o bryd neu yn y gorffennol.
Report a Stalker: gwybodaeth a chyngor ar sut i roi gwybod am stelciwr.
Victim Supportline llinell gymorth i unrhyw un y mae troseddu wedi effeithio arno.
Caethiwed i Gyffuriau ac Alcohol
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro yw’r gwasanaeth cyntaf i droi ato os bydd unrhyw un yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg o’r farn bod ganddo broblem â sylweddau. Bydd staff y Gwasanaeth yn cynnig apwyntiad cyfrinachol rhad ac am ddim ichi gael ystyried eich opsiynau.
Un o bartneriaid dibynadwy GamCare yw Ara Gambling Services, sef gwasanaeth cwnsela arbenigol AM DDIM sy'n cefnogi pobl sydd â phroblem gamblo. Gall ein gwasanaeth eich cefnogi yn ystod y tymor yn ogystal â phan fyddwch chi’n dychwelyd adref.
GamCare - Sylfaenydd y Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol
Hafan - Barod - cymorth ac arweiniad cyfrinachol ac am ddim i unrhyw un y mae’r defnydd o gyffuriau neu alcohol, naill ai ganddo ei hun neu rywun arall, yn effeithio arno
LHDTC+
Umbrella Cymru - elusen sy'n cynnig gwasanaethau cymorth mewn ystod o bynciau, gan gynnwys troseddau casineb, i unrhyw un yn y gymuned LHDT+ sy'n byw yn ne Cymru.
Gender Trust: I’r rheini y mae materion hunaniaeth rhywedd yn effeithio ar eu bywydau.
LGBT Foundation: Mae’r LGBT Foundation yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth arbenigol i bobl LHDTC+ ar bynciau fel therapïau siarad, cymorth iechyd rhywiol a chymorth cam-drin domestig
LGBT Health and Wellbeing: dyma fenter gymunedol unigryw sy'n hyrwyddo iechyd, lles a chydraddoldeb pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) yn yr Alban.
MindOut: gwasanaeth iechyd meddwl i bobl LHDT+ sy'n rhoi cyngor, gwybodaeth, eiriolaeth, grwpiau cymorth gan gymheiriaid yn ogystal â digwyddiadau mentora a lles.