Os oes angen cymorth ar frys neu gymorth y tu allan i oriau arnoch chi neu rywun arall, dylech chi ffonio 999 a rhoi gwybod i Dîm Diogelwch y Brifysgol drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444 os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i’r sefyllfa:
- bywyd mewn perygl
- bwriad o gyflawni hunanladdiad
- meddiant ar arf
- bygythiadau o niwed
- anaf corfforol
- marwolaeth myfyriwr
- terfysgaeth
Gwneud galwad dawel i 999
Os oes angen help arnoch chi ar frys ond nad ydych chi’n gallu siarad, arhoswch yn dawel pan fyddwch chi’n ffonio 999. Byddwch chi’n clywed neges wedi'i recordio, a bydd yn rhaid i chi bwyso 55 i gadarnhau bod angen help arnoch chi. Darllenwch sut mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio.
Sylw meddygol
Os ydych chi'n teimlo mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech chi wneud un o’r canlynol:
- cysylltu â'ch meddyg teulu, neu'r gwasanaeth y tu allan i oriau, a gofyn am apwyntiad brys
- mynd yn syth i'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf
- cysylltu â’r gwasanaethau brys drwy ffonio 999
Sut i gael cymorth iechyd meddwl brys
Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch chi a’ch bod yn ansicr a yw’n argyfwng, mae GIG Cymru’n cynnig cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ar ôl i chi ffonio 111, pwyswch 2. Fel arall, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Bydd yr unigolyn sydd wedi ateb yr alwad yn asesu pa wasanaeth sydd ei angen arnoch chi. Os ydych chi'n gymwys i gael eich gweld yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, bydd amser apwyntiad yn cael ei roi i chi, a byddwch chi’n cael galwad hanner awr ymlaen llaw i’ch atgoffa.
Nod yr alwad hon yw sicrhau eich bod yn mynd i'r gwasanaeth cywir ar yr adeg iawn. Os byddwch chi'n mynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys heb apwyntiad, bydd yr asesiad yn un sylfaenol, a bydd amser apwyntiad yn cael ei roi i chi os ydych chi'n gymwys.
Os nad oes angen sylw meddygol brys arnoch chi
Rydyn ni’n argymell eich bod yn mynd i weld eich meddyg teulu i gael archwiliad meddygol er mwyn sicrhau bod popeth yn iawn. Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl bod eich anafiadau’n ddifrifol, cofiwch fod sioc ac adrenalin ar ôl profiad trawmatig yn gallu cuddio difrifoldeb anafiadau corfforol.
Bydd yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i weithiwr meddygol proffesiynol yn cael ei thrin yn gyfrinachol, oni bai ei fod o’r farn eich bod mewn perygl o gael eich niweidio’n ddifrifol eto.
Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen apwyntiad meddygol arnoch chi, mae modd i chi geisio cyngor meddygol drwy wneud y canlynol:
- ffonio 111
- mynd i wefan GIG 111 Cymru
I gael cyngor mwy penodol ar drais a cham-drin, mae modd i chi gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn, sy’n rhoi cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a hynny drwy wneud y canlynol:
Cadw cofnod o ddigwyddiad
Os oes rhywun wedi ymosod arnoch chi a'ch bod am ddweud wrth yr heddlu, neu os ydych chi’n meddwl y byddwch chi am ddweud wrth yr heddlu’n ddiweddarach, byddai'n ddefnyddiol gwneud cofnod o’r hyn a ddigwyddodd. Peth normal yw cael trafferth cofio manylion ymosodiad, ac ym mha drefn y digwyddodd pethau, yn ddiweddarach.
Dyma restr wirio fer sy’n nodi’r manylion i’w cofnodi, os gallwch chi:
- yr hyn a ddigwyddodd, ac ym mha drefn
- lleoliad yr ymosodiad
- yr hyn y dywedodd y sawl dan sylw wrthych chi, a manylion ei ymddangosiad
- os oedd car ynghlwm wrth y digwyddiad, cymaint ag y gallwch chi ei gofio amdano
- a oedd unrhyw un arall o gwmpas a allai fod wedi gweld neu glywed rhywbeth
Eich diogelwch ar y campws
Os ydych chi'n teimlo'n anniogel ar y campws, cysylltwch â Thîm Diogelwch Prifysgol Caerdydd drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444. Mae'r Ystafell Rheoli Diogelwch ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch chi hefyd fynd i adeilad agosaf y Brifysgol a gofyn i rywun ffonio'r Ystafell Rheoli Diogelwch ar eich rhan.
Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl
Os ydych chi’n dyst i ymosodiad, trais neu ymddygiad treisgar neu fygythiol, peidiwch ag ymyrryd os nad yw'n ddiogel i chi wneud hynny.
Llinell gymorth Byw Heb Ofn
Gwasanaeth cenedlaethol, cyfrinachol gan Gymorth i Ferched Cymru sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth dros y ffôn yn rhad ac am ddim yw llinell gymorth Byw Heb Ofn. Mae ar gael i unrhyw un sy’n wynebu cam-drin rhywiol, cam-drin domestig neu drais o fath arall yn erbyn menywod. Mae ar gael hefyd i unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Mae ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
- Ffoniwch: 0808 8010 800