Beth yw Adrodd a Chymorth?
Offeryn cyfrinachol yw Adrodd a Chymorth i godi pryderon a chael cefnogaeth, cymorth ac arweiniad ym Mhrifysgol Caerdydd.
Myfyrwyr: Bydd eich adroddiad yn mynd yn uniongyrchol at y Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr, sef ymarferwyr sy'n deall trawma ac yn cynnig cymorth ar aflonyddu, ymddygiad niweidiol a phryderon brys am iechyd meddwl.
Staff: Bydd eich adroddiad yn mynd at y tîm Adnoddau Dynol (AD) perthnasol a fydd yn eich cyfeirio at y cymorth priodol o ran bwlio, gwahaniaethu neu gamymddwyn rhywiol.
Mewn argyfwng:
Ffoniwch 999 ar unwaith os yw'r sefyllfa'n golygu risg ddifrifol, cysylltwch hefyd â Diogelwch y Brifysgol hefyd ar +44 (0) 29 2087 4444. I gael cymorth brys iechyd meddwl, deialwch 111 a phwyso opsiwn 2.
Ga i roi gwybod am rywbeth a ddigwyddodd oddi ar y campws?
Cewch roi gwybod am bryder, hyd yn oed os digwyddodd oddi ar y campws.
Mae Adroddiad a Chymorth ar gael i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Caiff partïon allanol hefyd gyflwyno adroddiad am staff neu fyfyrwyr neu ar eu rhan. Rydyn ni’n deall y bydd y sefyllfaoedd hyn yn digwydd weithiau ar gampws y Brifysgol a’r tu hwnt iddo.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol neu os oes angen cymorth meddygol brys, ffoniwch y gwasanaethau brys999.
A yw Adrodd a Chymorth yr un peth â gweithdrefn gwyno ac ymddygiad?
Nac ydyw, defnyddir Adrodd a Chymorth yn bennaf i gael cymorth ac arweiniad i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
Myfyrwyr: Bydd eich adroddiad yn mynd yn uniongyrchol at y Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr, sef ymarferwyr sy'n deall trawma ac yn cynnig cymorth ar aflonyddu, ymddygiad niweidiol a phryderon brys am iechyd meddwl. Maen nhw’n rhoi cymorth ac arweiniad ond dydyn nhw ddim yn ymchwilio i gŵynion.
Cewch wneud cwyn ffurfiol drwy:
- Gweithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr yn achos materion sy'n ymwneud â myfyrwyr eraill.
- Gweithdrefn Gwyno’r Myfyrwyr yn achos pryderon am staff.
Staff: Bydd eich adroddiad yn mynd at y tîm AD perthnasol a fydd yn eich cyfeirio at y cymorth priodol o ran bwlio, gwahaniaethu neu gamymddwyn rhywiol. Nid proses gwyno ffurfiol yw hon, ond os byddwch chi’n dewis cael cymorth pellach gan AD drwy Adrodd+Cymorth. byddan nhw’n rhoi mwy o wybodaeth ac arweiniad ichi am y broses.
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn ffurfiol bydd gofyn ichi ysgrifennu at Bennaeth eich Ysgol/Cyfarwyddiaeth gan amlinellu manylion y gŵyn ac yn nodi pa gamau unioni rydych chi’n eu ceisio. Os nad ydych chi am unrhyw reswm yn gallu cyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig i Bennaeth eich Ysgol/Cyfarwyddiaeth, dylech chi gysylltu â'ch Partner Busnes AD lleol am gymorth. Ewch i fewnrwyd y staff i gael arweiniad ar gyflwyno cwyn ffurfiol.
Beth sy'n digwydd i adroddiadau a gyflwynir yn ddienw?
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd, yn enwedig os nad ydych chi’n rhoi enw’r person dan sylw inni. Serch hynny, os bydd digon o fanylion adnabyddadwy, efallai y byddwn ni'n gallu ymchwilio i'r mater ymhellach. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Fodd bynnag, rydyn ni’n sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn rhan o’r pryder sy’n cael ei gyflwyno’n ddienw yn cael ei chasglu at ddibenion data. Wrth inni edrych ar y data a chadw popeth yn gyfrinachol, byddwn ni’n ceisio chwilio am unrhyw batrymau sy’n digwydd o hyd a thrafod unrhyw gamau y mae modd eu cymryd i wella diogelwch a phrofiad y myfyrwyr.
Os ydych chi eisiau arweiniad a chymorth rydyn ni’n awgrymu eich bod yn cyflwyno adroddiad ynghyd â’ch manylion cyswllt.
Pa mor ddiogel yw fy ngwybodaeth?
Mae data sy’n cael ei gadw ar Adrodd a Chymorth yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff data ei gasglu a'i storio yn y polisi ar Breifatrwydd.. Profwyd diogelwch y system gan y datblygwr, Culture Shift, a’r Brifysgol.
Beth os bydda i’n cyflwyno adroddiad sydd ddim yn cael ei gredu?
Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n cymryd pob achos o ddatgelu o ddifrif. Mae staff sy'n ymdrin ag adroddiadau yn cael eu hyfforddi ac yn brofiadol o ran ymateb yn ofalus ac yn broffesiynol. Maen nhw’n cynnig cyd-destun diogel a dydyn nhw ddim yn barnu neb tra eu bod yn eich cefnogi, waeth beth yw'r camau nesaf y byddwch chi’n dewis eu cymryd, gan gynnwys dymuno bwrw ymlaen â phroses gwyno ffurfiol.
Beth fydd yn digwydd os ydw i’n dyst i ddigwyddiad sy'n gwneud imi deimlo'n anghyfforddus? Ga i roi gwybod amdano?
Cewch. Os byddwch chi'n dyst i ymddygiad neu ddigwyddiad sy'n gwneud ichi deimlo'n anghyfforddus, hyd yn oed os nad ydych chi ynghlwm wrtho yn uniongyrchol, rydyn ni’n eich annog i roi gwybod amdano.
Mae gofalu bod y Brifysgol yn un ddiogel a pharchus a bod hyn yn gyfrifoldeb rhwng pawb, a gall eich adroddiad helpu i sicrhau bod pryderon yn cael sylw priodol a bod cymorth ar gael os bydd angen
Weithiau, bydd gweld ac ymyrryd yn ffordd effeithiol o herio ymddygiad amhriodol. Mae hefyd yn dangos sut i weithio gydag eraill os nad ydych chi o’r farn eich bod yn gallu herio'r math hwn o ymddygiad yn bersonol.
Os ydych chi’n fyfyriwr ac yn ymddiddori ym maes gweld ac ymyrryd i weld sut mae herio agweddau ac ymddygiad niweidiol o fudd i bawb, cwblhewch ein modiwl e-ddysgu i chwarae eich rhan yn y gwaith o gadw ein campysau yn ddiogel.
Anogir staff i fynd i hyfforddiant ymwybyddiaeth gweld ac ymyrryd a ddarperir gan y Brifysgol.
Os bydda i’n anfon adroddiad, a fydd gofyn imi nodi pa ganlyniad yr hoffwn ei gael?
Pan fyddwch chi'n dewis cynnwys eich manylion cyswllt wrth gyflwyno gwybodaeth, bydd aelod o’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os mai myfyriwr yw'r person rydych chi'n pryderu amdano. Bydd AD yn cysylltu â chi os yw'r pryder a godwyd yn ymwneud ag aelod o staff. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall eich pryderon, trin a thrafod y canlyniadau rydych chi'n eu ffafrio a chwilio am atebion priodol.
Os byddwch chi’n anfon adroddiad yn ddienw, ni fyddwn ni’n gallu cynnig ymateb personol i chi na chymorth penodol chwaith. Er bod adroddiadau dienw yn cael eu cymryd o ddifrif o hyd, mae diffyg manylion cyswllt yn cyfyngu ar ein gallu i roi diweddariadau neu barhau â'r drafodaeth.
Beth galla i ei wneud os ydw i eisiau anfon adroddiad am ddigwyddiad sydd heb ei gynnwys yn y mathau o ddigwyddiad?
Myfyrwyr: dewiswch yr opsiwn “arall” i ddisgrifio'r math o ddigwyddiad inni.
Staff: Os yw eich pryder yn ymwneud ag ymddygiad nad yw'n cynnwys bwlio, gwahaniaethu na chamymddwyn rhywiol, dylech chi siarad â'ch rheolwr llinell yn gyntaf. Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i siarad â'ch rheolwr llinell, mae eich tîm AD lleol neu bennaeth eich ysgol/cyfarwyddiaeth hefyd ar gael i estyn cymorth.
Beth sy'n digwydd os bydda i’n ateb cwestiwn yn anghywir wrth gyflwyno adroddiad?
Unwaith y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno, allwch chi ddim ei olygu.
Mae'r atebion yn eich adroddiad yn ein helpu i’w gyfeirio at y tîm priodol ac yn rhoi trosolwg cychwynnol o'r digwyddiad.
Os byddwch chi’n cyflwyno adroddiad gan roi eich manylion cyswllt bydd aelod o staff hefyd yn cysylltu â chi i drafod eich adroddiad os oes angen eglurhad neu wybodaeth bellach arnyn nhw. Os ydyn nhw’n canfod bod unrhyw wybodaeth yn anghywir, gallan nhw ei diweddaru yn y system er mwyn sicrhau ei bod yn fanwl gywir. Fodd bynnag, os byddwch chi’n dewis cyflwyno adroddiad yn ddienw, byddwn ni’n tybio bod yr wybodaeth yn gywir gan na fyddwn ni’n gallu dilyn neu wirio rhagor o fanylion.