Beth yw Adrodd a Chymorth?

Mae Adrodd a Chymorth yn blatfform diogel, cyfrinachol i staff a myfyrwyr gael gafael ar gymorth a rhannu pryderon.

Myfyrwyr

Mae’r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr ac Ymyrraeth yn ymateb i achosion posibl o aflonyddu, ymddygiad niweidiol a phryderon am iechyd meddwl, a hynny â pharch a gofal er mwyn creu cymuned ddiogel i bawb. Bydd ymarferwyr trawma arbenigol yn ymdrin ag unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno gan fyfyrwyr.

Staff

Mae staff yn gallu rhoi gwybod am achosion o fwlio, gwahaniaethu a chamymddwyn rhywiol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei hadolygu gan y tîm AD lleol a fydd yn rhoi gwybod pa opsiynau datrys sydd ar gael. Gall y rhain gynnwys cymryd camau ffurfiol neu anffurfiol, yn ogystal â rhoi gwybod am y gwasanaethau cymorth lles perthnasol a gynigir gan y brifysgol.

Alla i roi gwybod am rywbeth a ddigwyddodd oddi ar y campws?

Gallwch, gallwch chi roi gwybod am bryder, hyd yn oed os digwyddodd oddi ar y campws. Mae Adrodd a Chymorth ar gael i'r holl staff, myfyrwyr, ymwelwyr a gwasanaethau neu unigolion allanol. Rydyn ni’n deall y gallai'r sefyllfaoedd hyn ddigwydd i staff a myfyrwyr ar gampws y brifysgol neu oddi arno.

Os ydych chi, neu rywun arall mewn perygl o niwed uniongyrchol, neu angen cymorth meddygol brys, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999.

Ai’r un peth â phroses gwyno yw Adrodd a Cymorth?

Na, mae gweithdrefnau cwyno ffurfiol yn cael eu rheoli naill ai gan yr ysgol, neu'r Tîm Achosion Myfyrwyr, yn dibynnu ar y difrifoldeb a'r risg sy'n ymwneud â'r gŵyn. Os hoffech gyflwyno cwyn ffurfiol, gweler rhagor o wybodaeth yma.

Mae Adrodd a Cymorth yn blatfform cyfrinachol ar-lein sydd wedi'i gynllunio i helpu i roi gwybod i chi am eich opsiynau a'ch arwain trwy'r rhain. Mae dau opsiwn ar gyfer datgeliad cyfrinachol ar Adrodd a Chymorth.

Beth sy'n digwydd i bryder sy’n cael ei gyflwyno’n ddienw?

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd, yn enwedig os nad ydych chi’n rhoi enw’r person dan sylw i ni. Os gallwch chi gynnig digon o fanylion adnabyddadwy, efallai y byddwn ni’n ymchwilio i’r mater ymhellach. Os gallwch chi gynnig digon o fanylion adnabyddadwy, efallai y byddwn ni'n ymchwilio i'r mater ymhellach.

Fodd bynnag, rydyn ni’n sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn rhan o’r pryder sy’n cael ei gyflwyno’n ddienw yn cael ei chasglu at ddibenion data. Wrth edrych ar y data a chadw popeth yn gyfrinachol, byddwn ni’n ceisio chwilio am unrhyw batrymau rheolaidd ac yn trafod unrhyw gamau a all gael eu cymryd i wella diogelwch a phrofiad megis hyfforddiant neu ymgyrchoedd wedi'u targedu.

Pa mor ddiogel yw fy ngwybodaeth?

Mae data sy’n cael eu cadw ar Adrodd a Chymorth yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac mae rhagor o wybodaeth am sut caiff data eu casglu a'u storio yn y Polisi Preifatrwydd. Mae'r system wedi cael ei phrofi o ran diogelwch gan y datblygwr, Culture Shift, a chan y Brifysgol.

Beth os ydw i’n rhoi gwybod am rywbeth ac nad yw’n cael ei gredu?

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae staff sy'n delio â datgeliadau, megis ein Tîm Cymorth i Fyfyrwyr ac Ymyrraeth a chydweithwyr AD, wedi cael profiad a hyfforddiant o ran sut i ymateb i ddatgeliadau. Maen nhw’n cynnig lle diogel yn rhydd o farn trwy'r broses gymorth, waeth beth yw'r camau nesaf y mae myfyriwr yn dymuno eu cymryd, gan gynnwys a hoffai fynd trwy'r broses gwyno ai peidio

Beth os ydw i’n dyst i ddigwyddiad sy'n gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus? Alla i roi gwybod amdano?

Gallwch. Os byddwch chi'n dyst i ymddygiad neu ddigwyddiad sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, hyd yn oed os nad ydych chi'n rhan uniongyrchol o'r peth, rydyn ni’n eich annog i roi gwybod amdano. Mae cynnal amgylchedd diogel a pharchus yn gyfrifoldeb a rennir. Gall rhoi gwybod amdano ein helpu i sicrhau bod pryderon yn cael sylw priodol a bod cymorth ar gael os oes angen.

Os bydda i’n codi pryder, a fydda i’n gorfod rhoi gwybod pa ganlyniad yr hoffwn ei weld?

Pan fyddwch chi'n dewis cynnwys eich manylion cyswllt wrth gyflwyno gwybodaeth, bydd aelod o’r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr ac Ymyrraeth yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os yw'r person rydych chi'n pryderu amdano yn fyfyriwr. Bydd Adnoddau Dynol yn cysylltu â chi os yw'r pryder a godwyd yn ymwneud ag aelod o staff. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall eich pryderon, trin a thrafod y canlyniadau rydych chi'n eu ffafrio, a nodi atebion priodol.

Os byddwch chi’n codi pryder yn ddienw, ni fyddwn ni’n gallu cynnig ymateb personol na chymorth wedi'i deilwra. Er bod pryderon sy’n cael eu cyflwyno’n ddienw yn dal i gael eu cymryd o ddifrif, mae'r diffyg gwybodaeth gyswllt yn cyfyngu ar ein gallu i gynnig diweddariadau neu barhau â'r sgwrs.

Beth alla i ei wneud os ydw i eisiau gwybod am ddigwyddiad ac nad yw wedi'i gynnwys yn y mathau o ddigwyddiadau?

Staff: Os yw eich pryder yn ymwneud ag ymddygiad nad yw'n cynnwys bwlio, gwahaniaethu, na chamymddwyn rhywiol, dylech chi siarad â'ch rheolwr llinell yn gyntaf. Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â'ch rheolwr llinell, mae eich tîm lleol neu bennaeth eich ysgol/cyfarwyddiaeth hefyd ar gael i roi cymorth.

Myfyrwyr: dewiswch yr opsiwn “arall” i ddisgrifio'r math o ddigwyddiad i ni.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd