!

Bydd y Gwasanaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr ar gau rhwng dydd Gwener 20 Rhagfyr 2024 a dydd Llun 6 Ionawr 2025 fel rhan o gau arferol y brifysgol dros y Nadolig.Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd negeseuon a anfonwch atom yn cael eu monitro a bydd ymatebion gan y Timau Iechyd a Lles Myfyrwyr yn cael eu gohirio nes iddynt ailagor ar 6 Ionawr.

Cymorth ar unwaith a diogelwch

Beth i’w wneud os ydych yn teimlo eich bod mewn perygl uniongyrchol, yn pryderu am eich diogelwch, neu wedi profi ymosodiad rhywiol yn y 7 diwrnod diwethaf.

Cymorth brys

Os ydych chi, neu rywun arall, mewn perygl uniongyrchol neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch y Gwasanaethau Brys ar 999.

Gwneud galwad dawel i 999

Os oes angen help brys arnoch ond nad ydych yn gallu siarad, arhoswch yn dawel pan fyddwch yn ffonio 999. Byddwch yn clywed neges wedi'i recordio a rhaid i chi bwyso 55 i gadarnhau bod angen help arnoch. Darllenwch fwy am sut mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio.

Sylw meddygol

Os ydych chi'n teimlo mewn perygl uniongyrchol o niwed i chi'ch hun, naill ai:

Os nad oes angen sylw meddygol brys arnoch

Argymhellir eich bod yn gweld eich meddyg teulu i gael archwiliad meddygol a phrawf i wirio eich iechyd. Hyd yn oed os nad ydych yn credu bod eich anafiadau yn ddifrifol, cofiwch fod sioc ac adrenalin yn dilyn profiad trawmatig yn gallu cuddio difrifoldeb anafiadau corfforol.

Caiff y wybodaeth a roddir gennych i weithiwr meddygol proffesiynol ei thrin yn gyfrinachol, heblaw mewn achosion pan ystyrir eich bod mewn perygl o gael eich niweidio’n ddifrifol eto.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen apwyntiad meddygol arnoch, gallwch geisio am gyngor meddygol drwy:

I gael cyngor mwy penodol am drais a chamdriniaeth gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn i gael cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy:

Cadw cofnod o ddigwyddiad

Os oes rhywun wedi ymosod arnoch a'ch bod am ddweud wrth yr heddlu, neu os ydych yn meddwl y byddwch am ddweud wrth yr heddlu yn ddiweddarach, byddai'n ddefnyddiol gwneud cofnod o ddigwyddiadau. Peth normal yw cael trafferth wrth geisio cofio manylion yr ymosodiad yn y drefn y digwyddodd, yn ddiweddarach.

Gweler rhestr wirio fer o ba wybodaeth i'w chofnodi os gallwch:

  • beth ddigwyddodd, ac ym mha drefn
  • lle y digwyddodd
  • beth wnaeth y sawl a oedd yn gyfrifol ei ddweud wrthych, a manylion ei ymddangosiad
  • os oedd car ynghlwm wrth y digwyddiad, cofnodwch yr hyn rydych yn ei gofio amdano
  • a oedd unrhyw un arall o gwmpas a allai fod wedi gweld neu glywed rhywbeth.

Eich diogelwch ar y campws

Os ydych chi'n teimlo'n anniogel ar y campws, ffoniwch Ddiogelwch Prifysgol Caerdydd ar +44(0)29 2087 4444. Mae'r Ystafell Rheoli Diogelwch ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch hefyd fynd i'ch adeilad prifysgol agosaf a gofyn i rywun ffonio'r Ystafell Reoli Diogelwch ar eich rhan.

Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl

Os ydych yn dyst i weithred o ymosod neu drais, neu ymddygiad treisgar neu fygythiol, peidiwch ag ymyrryd os nad yw'n ddiogel gwneud hynny.

Cymorth arall

Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr

Mae gan y Tîm Ymyrraeth Cymorth i Fyfyrwyr (SSIT) ymarferwyr arbenigol a all eich cefnogi. Nid yw SSIT ar gael 24 awr y dydd, fodd bynnag rydym yma i'ch cefnogi. Gallwch cyflwyno'ch gwybodaeth trwy'r hafan Adrodd a Chymorth neu gwneud Ymholiad drwy'r Porth Cyswllt Myfyrwyr,ar unrhyw adeg. 

Byddwch yn cael ateb o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00-16:30.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Gwasanaeth cefnogaeth a gwybodaeth cyfrinachol cenedlaethol yn rhad ac am ddim dros y ffôn yw llinell gymorth Byw Heb Ofn. Fe’i cyflwynir gan Gymorth i Ferched Cymru ar gyfer unrhyw un sy’n profi trais rhywiol, cam-drin domestig, neu ffurfiau eraill o drais yn erbyn menywod, neu unrhyw un sydd am ragor o wybodaeth ynghylch y gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Ar agor 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn.

Os ydych wedi profi ymosodiad rhywiol

Os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, ceisiwch fynd i rywle lle rydych yn teimlo'n ddiogel, er enghraifft, cartref ffrind agos neu berthynas, neu ysbyty.

Unwaith y byddwch yn ddiogel, rydym yn eich annog i ddilyn y camau hyn:

Dywedwch wrth rywun beth ddigwyddodd

Os ydych chi'n teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny, dywedwch beth ddigwyddodd wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo.

Gallech siarad â:

Os ydych chi’n credu eich bod mewn perygl uniongyrchol o niwed difrifol, dylech gysylltu â'r gwasanaethau brys drwy ffonio 999.

Cadw tystiolaeth

Os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, efallai y byddwch yn gallu cadw tystiolaeth fforensig, hyd yn oed os nad ydych yn dymuno hysbysu'r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd. Mae'n well cadw tystiolaeth o fewn 72 awr i'r ymosodiad ddigwydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth gan Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Caerdydd a Llwybrau Newydd.

Er y gall fod yn anodd iawn, ceisiwch beidio ag ymolchi neu olchi eich dillad nes eich bod wedi penderfynu a ddylid rhoi gwybod i'r heddlu beth ddigwyddodd.

Dylech hefyd geisio osgoi:

  • glanhau eich dannedd (neu dylech gadw eich brwsh dannedd mewn bag wedi'i selio os ydych yn eu glanhau)
  • bwyta neu yfed
  • mynd i'r tŷ bach
  • ysmygu

Efallai y bydd angen i'r heddlu gasglu tystiolaeth fel DNA os penderfynwch roi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd. Yn ddelfrydol, dylai unrhyw dystiolaeth feddygol gael ei chasglu o fewn 72 awr (tri diwrnod) ar ôl yr ymosodiad.

Ystyriwch eich diogelwch parhaus

Mae'n bwysig ystyried pethau fel:

  • a gafodd eich allweddi neu eich cerdyn adnabod eu cymryd gan y troseddwr, ac a yw’n gwybod ble rydych chi’n byw? Os felly, efallai y byddwch am gael cyngor ar frys ynglŷn â newid eich cloeon.
  • a yw’r sawl oedd yn gyfrifol yn fygythiad o hyd?
  • a yw’n byw gyda chi neu yn gwybod lle rydych chi'n byw? Os felly, gallech ofyn i'r Brifysgol ynglŷn â llety diogel ac unrhyw gostau ariannol a fyddai’n gysylltiedig â symud. Gallwch gysylltu â Thîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr y brifysgol am gyngor a chymorth ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00-16:30. Y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â Diogelwch y Brifysgol drwy ffonio: +44 (0)29 2087 4444.

Os nad ydych yn teimlo eich bod mewn perygl uniongyrchol, neu os nad ydych wedi dioddef achos o drais neu gam-drin yn ddiweddar, ond rydych yn poeni am eich diogelwch yn y dyfodol, gallech ystyried:

  • a oes unrhyw un y gallwch ofyn iddo am gymorth yn y dyfodol?
  • gallwch chi wneud rhestr o enwau/manylion cyswllt y bobl y gallwch fynd atynt
  • a oes myfyriwr arall neu aelod staff yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi ac y gallwch siarad ag ef neu hi?

Eich iechyd rhywiol

Os ydych wedi dioddef trosedd rywiol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ceisio triniaeth ar gyfer heintiau a chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol, yn ogystal â dulliau atal cenhedlu brys. Mae'r Clinig Iechyd Rhywiol Integredig yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol a dulliau atal cenhedlu llawn.

Rhagor o gymorth

Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)

Ynys Saff, neu Safe Island, yw’r enw ar SARC Caerdydd.  Gallwch gysylltu ag Ynys Saff drwy ffonio: +44(0)29 2033 5795. Fe'i lleolir yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd,Glossop Road, CF24 0SZ.

Os ydych yng Nghymru, ac nid Caerdydd yw eich SARC leol, gallwch chwilio am eich SARC leol, drwy ddefnyddio’r term chwilio: 'iechyd rhywiol'.

Os ydych yn Lloegr, gallwch chwilio am eich SARC leol. Noder nad yw SARC wedi'i sefydlu eto ym mhob rhan o Gymru a Lloegr. Gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu neu feddygfa, neu ffonio 111 i gael cyngor ar ble arall i ofyn am gymorth.

Os ydych yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr, gallwch gysylltu â'ch meddygfa leol neu ffonio 111 i gael cyngor ar ble i gael cymorth.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd