Cymorth defnyddiol arall
Gwasanaeth | Disgrifiad | ||
---|---|---|---|
Y Samariaid | Gwasanaeth cymorth mewn argyfwng lle gallwch siarad am unrhyw beth sy'n eich poeni. | ||
Llinell wrando iechyd meddwl CALL | Mae’n cynnig llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac ystod o wybodaeth ar-lein.Ffoniwch +44 (0) 800 132 2737, tecstiwch "help" i 81066 neu ewch i callhelpline.org.uk | ||
Talk Campus | Mae Talk Campusyn safle rhwydweithio cymdeithasol sy’n cynnig man diogel i siarad yn ddienw am unrhyw beth heb gael eich beirniadu. Wedi’i bweru gan y rhwydwaith cymorth iechyd meddwl blaenllaw, TalkLife.Mae tîm proffesiynol, ynghyd â myfyrwyr sy’n mynd drwy’r un trafferthion â chi, yn monitro TalkCampusLawrlwythwch ap TalkCampus o'r siop apiau neu googleplay a chofrestrwch gan ddefnyddio'ch cyfeiriad @caerdydd.ac.uk, neu ffoniwch eu llinell argyfwng: +44 (0)800 031 8813. | ||
Mind | Gall y gwasanaeth hwn eich helpu i ddod o hyd i gymorth lleol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am broblemau a thriniaethau iechyd meddwl. | ||
Canolfan Cyngor i Fyfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr | Mae’n rhoi cyngor a gwybodaeth, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chefnogaeth drwy wasanaeth cyfrinachol, diduedd, annibynnol, rhad ac am ddim. | ||
Byw Heb Ofn | Cefnogaeth a gwybodaeth gyfrinachol am gam-drin domestig, trais rhywiol a thrais sy'n yn erbyn menywod yng Nghymru.Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch anfon ebost atynt info@livefearfreehelpline.wales neu ffonio +44(0)808 8010 800. | ||
Meningitis now | Os oes gennych gwestiynau am lid yr ymennydd neu septisemia meningococcal. Gallwch hefyd drafod pethau neu gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a gynigir. | ||
Cwnsela Profedigaeth Cruse | Cefnogaeth gyfrinachol rad ac am ddim i oedolion a phlant yn dilyn profedigaeth. |