Os oes rhywun wedi ymosod arnoch chi’n rhywiol, ceisiwch fynd i rywle lle rydych chi’n teimlo'n ddiogel (er enghraifft, cartref ffrind agos neu berthynas, neu’r ysbyty).
Pan fyddwch chi’n ddiogel, rydyn ni’n eich annog i gymryd y camau canlynol:
Dywedwch wrth rywun beth a ddigwyddodd
Os ydych chi'n teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny, ystyriwch ddweud beth a ddigwyddodd wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddo.
Gallech chi siarad â:
- ffrind neu aelod o’r teulu
- sefydliad cymorth arbenigol, megis llinell gymorth Byw Heb Ofn (gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru / +44 (0)808 8010 800) sy'n cynnig cymorth ac arweiniad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i unrhyw un sydd wedi wynebu trais rhywiol neu gam-drin domestig
- Cymorth i Ddioddefwyr De Cymru, Ymddiriedolaeth y Goroeswyr, ManKind neu Stonewall
- eich Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol leol – mae canolfannau o’r fath yn hynod gefnogol, ac mae rhagor o wybodaeth am gysylltu â'ch canolfan leol ar gael ar y dudalen hon
- yr heddlu, drwy ffonio 101, rhoi gwybod ar-lein neu fynd i’ch gorsaf leol
Os ydych chi’n credu eich bod mewn perygl uniongyrchol o gael eich niweidio’n ddifrifol, dylech chi gysylltu â'r gwasanaethau brys drwy ffonio 999.
Cadw tystiolaeth
Os oes rhywun wedi eich treisio neu wedi ymosod arnoch chi yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu cadw tystiolaeth fforensig, hyd yn oed os nad ydych chi am roi gwybod i’r heddlu beth a ddigwyddodd. Mae’r dystiolaeth orau’n cael ei chadw cyn pen 72 awr ar ôl yr ymosodiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Caerdydd a Llwybrau Newydd.
Er y gall fod yn anodd iawn, ceisiwch beidio ag ymolchi neu olchi eich dillad nes eich bod wedi penderfynu a ydych chi am roi gwybod i’r heddlu neu beidio.
Dylech chi hefyd geisio osgoi gwneud y canlynol:
- brwsio eich dannedd (cadwch eich brwsh dannedd mewn bag wedi'i selio os ydych chi’n gwneud hynny)
- bwyta ac yfed
- mynd i'r toiled
- ysmygu
Os byddwch chi’n penderfynu rhoi gwybod beth a ddigwyddodd, efallai y bydd angen i'r heddlu gasglu tystiolaeth megis DNA. Yn ddelfrydol, dylai unrhyw dystiolaeth feddygol gael ei chasglu cyn pen 72 awr (tri diwrnod) ar ôl yr ymosodiad.
Ystyriwch eich diogelwch parhaus
Mae'n bwysig gofyn cwestiynau megis:
- A gafodd eich allweddi neu eich cerdyn adnabod eu cymryd gan y troseddwr, ac a yw’n gwybod ble rydych chi’n byw? – Os felly, efallai yr hoffech chi geisio cyngor ar frys ar newid eich cloeon.
- A yw’r sawl dan sylw yn fygythiad o hyd?
- A yw’n byw gyda chi neu’n gwybod ble rydych chi'n byw? – Os felly, efallai yr hoffech chi holi’r Brifysgol ynghylch llety diogel ac unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael i symud. Mae modd i chi gysylltu â Thîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr y Brifysgol rhwng 09:00 a 16:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener i geisio cyngor a chymorth mewn perthynas â hyn. Y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â Thîm Diogelwch y Brifysgol drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444.
Os ydych chi’n poeni ynghylch eich diogelwch yn y dyfodol, er nad ydych chi’n teimlo mewn perygl uniongyrchol nac wedi wynebu trais neu gam-drin yn ddiweddar, efallai y byddai’n ddefnyddiol gofyn cwestiynau megis:
- A oes unrhyw un y gallwch chi fynd ato i gael cymorth yn y dyfodol?
- A yw’n bosibl i chi lunio rhestr sy’n cynnwys enwau/manylion cyswllt y bobl y gallwch chi fynd atyn nhw?
- A oes myfyriwr arall neu aelod o’r staff rydych chi’n ymddiried ynddo ac yn gallu siarad ag ef?
Eich iechyd rhywiol
Os ydych chi wedi dioddef trosedd rywiol, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn ceisio triniaeth ar gyfer heintiau a chlefydau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol, yn ogystal â dulliau atal cenhedlu brys. Mae'r Clinig Iechyd Rhywiol Integredig yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol a dulliau atal cenhedlu llawn.
Cymorth pellach
Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol
Ynys Saff, neu Safe Island, yw enw Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Caerdydd. Mae modd i chi gysylltu ag Ynys Saff drwy ffonio +44 (0)29 2033 5795. Lleoliad Ynys Saff yw Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Glossop Road, Caerdydd CF24 0SZ.
Os ydych chi yng Nghymru ond nad Ynys Saff yw eich canolfan leol, mae modd i chi chwilio am eich canolfan leol gan ddefnyddio’r term chwilio 'iechyd rhywiol'.
Os ydych chi yn Lloegr, mae modd i chi chwilio am eich canolfan leol. Nodwch nad oes canolfan ar gael ym mhob rhan o Gymru a Lloegr eto. Mae modd i chi gysylltu â'ch meddyg teulu neu ffonio 111 i gael gwybod ble arall i fynd am gymorth.
Os ydych chi’n byw y tu allan i Gymru a Lloegr, mae modd i chi gysylltu â'ch meddyg teulu neu ffonio 111 i gael gwybod ble i fynd am gymorth.