Cyngor neu gefnogaeth brys
Os ydych chi neu rywun arall angen cymorth brys neu y tu allan i oriau, dyma bwy i gysylltu.
Mewn argyfwng
Os yw'r sefyllfa'n cynnwys:
- perygl ar fin digwydd
- bwriad hunanladdol
- meddu ar arf
- bygythiadau o niwed
- anaf corfforol
- marwolaeth myfyriwr
- terfysgaeth.
Ffoniwch 999 ac i roi gwybod i Ddiogelwch, deialwch +44 (0)2087 4444.
Cyrchu gwasanaethau meddygol brys
Os oes angen cymorth meddygol arnoch ond nad ydych yn siŵr a yw’n argyfwng, i gael cymorth 24/7 gan y GIG yng Nghymru ffoniwch 111 neu ewch i GIG 111 Cymru.
Bydd rhywun yn ateb galwadau i frysbennu pa wasanaeth fydd ei angen arnoch. Os ydych chi'n gymwys i gael eich gweld yn yr Uned Achosion Brys, rhoddir amser apwyntiad i chi a chewch alwad hanner awr ymlaen llaw i’ch atgoffa.
Nod yr alwad hon yw sicrhau eich bod yn mynd i'r gwasanaeth cywir ar yr amser cywir. Os byddwch chi'n mynd i'r Uned Achosion Brys heb apwyntiad byddwch chi'n cael asesiad sylfaenol ac yn cael amser apwyntiad os ydych chi'n gymwys.
Sut i godi pryder difrifol nad yw'n argyfwng
Os oes gennych bryderon difrifol am eich diogelwch chi neu am ddiogelwch myfyriwr arall, ond nid yw'n argyfwng, efallai y byddai'n briodol cysylltu â Thîm Ymyrraeth Cymorth i Fyfyrwyr (SSIT) y brifysgol.
Pwy yw SSIT
SSIT (a elwid gynt yn Timau Ymateb Datgelu ac Ymyrraeth Myfyrwyr) yw un tîm symlach o ymarferwyr sy'n arbenigo mewn cymorth trais a cham-drin neu gymorth ac ymyrraeth iechyd meddwl.
Nid gwasanaeth brys yw SSIT a dim ond yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener y mae ar agor.
Mae SSIT yn rhan o wasanaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr y Brifysgol.
Pa wasanaethau mae SSIT yn eu cynnig
Mae SSIT yn darparu cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan:
- trais, cam-drin neu unrhyw ymddygiad amhriodol arall sy'n achosi tramgwydd neu ofid, waeth pryd y digwyddodd hyn, a waeth beth yw unrhyw fwriad i adrodd yn ffurfiol i'r brifysgol neu'r heddlu
- anghenion iechyd meddwl brys neu sy'n peri risg iddyn nhw eu hunain a/neu eraill
- honiadau o ymddygiad pryderus neu amhriodol.
Mae ymarferwyr arbenigol yn darparu cymorth pwrpasol, anfeirniadol a chyfrinachol sydd wedi'i deilwra i anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr.
Mae cefnogaeth ar gael drwy sesiynau 1-2-1. Mae enghreifftiau o gefnogaeth yn cynnwys:
- asesiad risg arbenigol
- cynllunio diogelwch
- cyfeirio
- rhannu adnoddau
- helpu i gael mynediad at wasanaethau mewnol ac allanol priodol
- gwybodaeth am brosesau adrodd ffurfiol (os mai dyma beth mae'r myfyriwr ei eisiau).
Pryd a sut i wneud atgyfeiriad SSIT
Gall cyflwyniadau sy'n briodol ar gyfer cymorth iechyd meddwl SSIT gynnwys:
- newid sylweddol mewn ymddygiad sy'n ymwneud â phroblem iechyd meddwl neu les
- ymddygiad a allai beri risg i'ch hun, fel; hunan-niweidio, bwyta anhrefnus a chamddefnyddio sylweddau
- ymddygiad a allai beri risg i eraill
- syniadaeth hunanladdol gan gynnwys meddyliau, cynlluniau neu fwriad
- arwyddion o paranoia neu seicosis.
Bydd SSIT yn ymateb i'ch ymholiad lle bo'n bosibl o fewn un diwrnod rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) yn ystod y tymor yn unig.
Os byddwch yn cyflwyno pryder ar ôl 16:00 bydd y pryder yn cael ei ystyried ar y diwrnod canlynol.
I wneud atgyfeiriad SSIT cyflwynwch eich gwybodaeth trwy'r hafan Adrodd a Chymorth. Gallwch gyflwyno'ch adroddiad yn ddienw neu gyda manylion cyswllt ond ystyriwch y wybodaeth isod cyn gwneud hynny.
Cydsyniad
Os ydych chi'n cysylltu â SSIT ar ran myfyriwr arall, lle bo hynny'n bosibl, mynnwch ganiatâd gan y myfyriwr rydych chi'n poeni amdano a nodwch hyn ar y ffurflen adroddiad.
Os byddwch yn dewis adrodd yn ddienw, ni fyddwn yn gwirfoddoli o ble mae'r pryder wedi dod, ond byddwch yn ymwybodol y gallai'r myfyriwr ddyfalu pwy adroddodd y pryder.
Datgelu profiad o drais neu gamdriniaeth
Mae Ymarferwyr Arbenigol mewn SSIT ar gael i siarad â myfyrwyr a darparu cymorth ymarferol os ydynt yn profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth, gan gynnwys aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin perthynas a mathau eraill o ymddygiad amhriodol y gallai myfyrwyr ei chael yn ofidus.
I gysylltu â ni, cyflwynwch eich gwybodaeth trwy'r hafan Adrodd a Chymorth.
Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad lle bo'n bosibl o fewn un diwrnod gwaith rhwng 09:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) yn ystod y tymor yn unig. Os byddwch yn anfon e-bost atom gyda phryder ar ôl 16:00 byddwn yn edrych ar y pryder ar y diwrnod canlynol. Os oes gennych gwestiynau am y broses, ffoniwch Cyswllt Myfyrwyr ar +44 (0)29 2251 8888.
Os yw'r profiad yn digwydd nawr a'ch bod mewn perygl ar fin digwydd, cyfeiriwch at y cyngor diogelwch uniongyrchol canlynol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am beth i'w wneud mewn argyfwng meddygol, cyngor os ydych wedi dioddef trais rhywiol yn ystod y 72 awr ddiwethaf ac yn cynnwys gwybodaeth am gymorth y tu allan i oriau.
Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd