Ein gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr yw eich man cyswllt cyntaf os bydd angen cymorth arnoch chi wrth astudio gyda ni.

Mae ein timau yma i'ch helpu gydag amrywiaeth enfawr o ymholiadau a chefnogi llawer o'r prosesau neu'r gwasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch wrth astudio yma. Mae Cyswllt Myfyrwyr yn ffordd hawdd i chi gysylltu â'r holl dimau Bywyd Myfyrwyr:

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi profiad rhagorol i fyfyrwyr ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. I gysylltu â ni, cewch:

  • Ymweld â desg Cyswllt Myfyrwyr ar lawr gwaelod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr sydd ar agor rhwng:
  • defnyddio ein porth Cyswllt Myfyrwyr ar-lein
  • gofyn eich cwestiynau i'n sgyrsfot 24/7. Ar ôl mewngofnodi i’r fewnrwyd, byddwch chi’n gweld y botwm sgwrsio glas a gwyn yng nghornel dde isaf eich sgrîn
  • ffoniwch ni ar +44 (0)29 2251 8888

Cewch wybod â phwy i gysylltu os oes angen cefnogaeth frys neu y tu allan i oriau gwaith arnoch chi neu unrhyw un arall.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd