Darparwyr cymorth eraill

Yn ogystal â’r cymorth a gynigir gan ein timau Iechyd a Lles Myfyrwyr, mae nifer o sefydliadau a gwasanaethau eraill ar gael i’ch helpu.

Mae'r darparwyr hyn yn gymysgedd o allanol a mewnol i'r brifysgol ac yn cynnig cyngor ac arweiniad arbenigol ar ystod o faterion.

Llinellau cymorth 

Y Samariaid

Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. Maen nhw yno 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Os oes rhywbeth yn eich poeni chi, cysylltwch:

  • Ffoniwch gangen Caerdydd: +44 (0)29 2034 4022 (cost galwad leol)
  • Rhif ffôn cenedlaethol: 116 123 (mae'r rhif hwn am ddim)
  • Ebostiwch y Samariaid: jo@samaritans.org

Ymweld â Changen Caerdydd:

Samariaid Treganna

75 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen

Treganna

Caerdydd

CF11 9AF

Oriau agor arferol i dderbyn galwyr wrth y drws:

  • Dydd Llun: 15:00-21:00
  • Dydd Mawrth: 09:00-21:00
  • Dydd Mercher: 09:00-21:00
  • Dydd Iau: 09:00-21:00
  • Dydd Gwener: 12:00-21:00
  • Dydd Sadwrn: 12:00-15:00
  • Dydd Sul: 09:00-21:00.

HOPELINE247

Mae Papyrus HOPELINE247 yn darparu cymorth cyfrinachol 24/7 a chyngor ymarferol i bobl ifanc dan 35 oed sy’n meddwl am hunanladdiad ac i unrhyw un sy’n pryderu y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad.

Caplaniaeth 

Gall Caplaniaeth eich helpu i drafod materion sy'n eich poeni, gan gynnwys profedigaeth, unigrwydd, problemau gyda pherthnasau neu'ch cwrs, mewn lleoliad anffurfiol, hamddenol. Nid oes rhaid i chi fod yn berson crefyddol i siarad â chaplan.

Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig cyfeillgarwch, lletygarwch, amser i fyfyrio, gweddïo, cymorth a deialog; gan roi cyfleoedd i chi gymdeithasu ac ystyried ffydd ac ysbrydolrwydd, os mai dyna yr ydych yn chwilio amdano.

Gallwch wneud apwyntiad trwy e-bostio chaplaincy@caerdydd.ac.uk.

Gwasanaeth cynghori Undeb y Myfyrwyr 

Mae gwasanaeth cynghori Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyngor a gwybodaeth ar y meysydd canlynol, yn annibynnol o'r Brifysgol:

Cefnogaeth iechyd meddwl tu allan i'r Brifysgol 

Cefnogaeth iechyd meddwl tu allan i'r Brifysgol:

Cefnogaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg 

Adnodd iechyd meddwl a lles yw myf.cymru sydd wedi’i anelu at fyfyrwyr addysg uwch Cymraeg eu hiaith sy’n astudio yng Nghymru a thu hwnt.

Datblygwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ariannwyd yr adnoddau gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Nodwyd bod prinder adnoddau iechyd meddwl a lles yn benodol ar gyfer myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers sefydlu’r cynllun, mae cael mewnbwn a mewnwelediad gan fyfyrwyr ac Undebau Myfyrwyr wedi bod yn hollbwysig, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau’n addas a pherthnasol.

Mae myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ledled Cymru a thu hwnt wedi cael mewnbwn i ddatblygiad yr adnoddau - o roi adborth ar y dyluniad, i strwythur y wefan i greu cynnwys gwreiddiol.

Cyrchwch hwb myf i gael gwybod am yr holl adnoddau sydd ar gael.

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a'r Fro 

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a'r Fro (CAVDAS) yn un pwynt mynediad i unrhyw un sy’n teimlo bod ganddynt broblem gydag unrhyw sylwedd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Bydd staff CAVDAS yn rhoi apwyntiad cyfrinachol am ddim i chi i archwilio eich opsiynau.

I siarad â rhywun am gael cymorth yng Nghaerdydd a’r Fro i chi’ch hun, ffrind neu aelod o’r teulu, gallwch gysylltu â CAVDAS drwy:

Gallwch hefyd fynychu sesiwn galw heibio CAVDAS yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr, sydd ar gael bob pythefnos ar ddydd Llun o 14 Hydref 2024.

Help gyda gamblo problemus 

Mae Gwasanaethau Gamblo Ara yn bartner dibynadwy i GamCare ac mae'n wasanaeth cwnsela arbenigol RHAD AC AM DDIM, sy'n cefnogi'r rhai sydd â phroblem gyda gamblo. Gall ein gwasanaeth eich cefnogi yn ystod y tymor yn ogystal â phan fyddwch yn dychwelyd adref.

Ydych chi'n gyfarwydd ag unrhyw un o'r canlynol:

  • gwario afreolus
  • treulio amser sylweddol yn gamblo
  • cuddio neu ddweud celwydd am ymddygiad gamblo
  • gamblo yn effeithio ar berthynas gyda theulu a ffrindiau
  • rhoi’r gorau i weithgareddau
  • treulio gormod o amser ar gyfrifiadur
  • dim diddordebau amlwg na gweithgareddau hamdden
  • absenoldeb o'r Brifysgol

Os yw gamblo'n amharu ar y bywyd rydych chi am ei fyw, cysylltwch â ni i gael cefnogaeth gyfrinachol a chwnsela RHAD AC AM DDIM.

Yn ystod y cyfnod clo, rydym wedi nodi bod mwy o bobl wedi diweddu cynlluniau hunan-wahardd sy’n eu hatal rhag cael mynediad at gamblo ar-lein. Rydym yn gwybod bod ffactorau allai fod yn cyfrannu at y caethiwed, fel gofid ariannol, unigrwydd a diflastod, wedi cynyddu yn ystod y cyfnod clo.

Mae Gwasanaeth Gamblo Ara yn parhau i roi cefnogaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’r broses atgyfeirio’n hawdd. Gallwch ffonio: +44 (0)3301 340286 neu ebostio: aragamblingservice@recovery4all.co.uk. Fel arall gellir trefnu atgyfeiriad trwy wasanaeth Cwnsela a Lles Prifysgol Caerdydd.

Os oes angen cymorth brys arnoch, ffoniwch Linell Gymorth Genedlaethol GamCare ar +44 (0)80 8802 0133 (ffôn yn rhad ac am ddim) sydd ar agor 24/7.

Gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor a chymorth ar gyfer delio â gamblo problemus, a chymorth penodol os yw gamblo rhywun arall yn effeithio arnoch chi, yn ein hadnoddau hunangymorth.

Cefnogaeth i rieni ifanc 

Mae'r tîm Cyngor ac Arian yn cynnig llawer o gyngor/cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n rhieni.

Yng Nghaerdydd, mae gan Barnardo’s rai cynlluniau sy'n cynorthwyo rhieni/teuluoedd ifanc, gan gynnig cymorth un-i-un yn ogystal â chyrsiau, grwpiau a thai - gall hwn fod yn rhywbeth y gallem ni gyfeirio rhieni sengl ato am ragor o wybodaeth/i gael cymorth.

Ceir elusen hefyd o'r enw Gingerbread sy'n gofrestredig yng Nghymru a Lloeg ac sy'n cynorthwyo rhieni sengl yn benodol.

Cefnogaeth i fyfyrwyr yr effeithiwyd arnynt gan farwolaeth plentyn neu berson ifanc 

Mae 2 Wish Upon a Star yn cefnogi unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed. Maen nhw’n cefnogi teulu agos, teulu estynedig, ffrindiau, cydweithwyr, tystion a gweithwyr proffesiynol a allai fod wedi’u heffeithio gan y farwolaeth.

Maen nhw’n gallu cynnig cefnogaeth frys, cwnsela, therapi cyflenwol, therapi chwarae a chwnsela i bobl ifanc, grwpiau cefnogi penodol, digwyddiadau misol a phenwythnosau preswyl.

Mae’r rheiny sydd wedi cael profedigaeth ac am gael cefnogaeth yn aml yn cael eu cyfeirio gan weithiwr proffesiynol; fodd bynnag, maen nhw’n croesawu pobl sy’n cyfeirio eu hunain hefyd.

Mae angen i’r rheiny sydd wedi cael profedigaeth allu galaru yn eu ffyrdd eu hunain ac yn eu hamser eu hunain, felly nid ydyn nhw’n rhoi terfyn amser ar alar. P’un ai bod y farwolaeth wedi digwydd ddoe, neu flynyddoedd yn ol, os ydych yn teimlo mai nawr yw’r amser i gael cefnogaeth, cysylltwch â nhw drwy ffonio +44 (0)1443 853125 neu ebostio support@2wishuponastar.org.

Cefnogaeth os cawsoch eich mabwysiadu fel plentyn 

Os ydych am gael cymorth emosiynol am eich bod wedi cael eich mabwysiadu pan oeddech yn blentyn, mae gan y llywodraeth ganllawiau clir sy’n nodi bod yn rhaid i hyn gael ei gynnig gan asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am yr asiantaethau hyn ar y wefan hon gan y llywodraeth.

Mae Adopt Cymru hefyd yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd