Mae'r datganiad hwn yn cyfeirio at dudalennau Adrodd a Chymorth (Culture Shift) Prifysgol Caerdydd: reportandsupport.cardiff.ac.uk ac addroddachymorth.cardiff.ac.uk.
Mae Adrodd a Chymorth yn blatfform i fyfyrwyr a staff allu rhoi gwybod am achosion o fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a chamymddwyn rhywiol. Gall fyfyrwyr hefyd roi gwybod am bryderon iechyd meddwl brys. Mae'r rhestr lawn o'r hyn y gall myfyrwyr a staff roi gwybod amdanyn nhw ar gael drwy'r ffurflen
Caiff y platfform ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, ond mae'n cael ei ddarparu gan Culture Shift, sy'n golygu nad yw pob agwedd ar y platfform o dan ein rheolaeth.
Ein nod yw gwneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl. Mae hyn yn golygu y dylech chi allu:
- gweld y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig;
- neidio i'r prif gynnwys gan ddefnyddio bysellfwrdd;
- gweld y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais;
- defnyddio rhaglenni darllen sgrin;
- defnyddio ystod o ddyfeisiau i gyrchu’r gwasanaeth Adrodd a Chymorth gan Culture Shift e.e., ffonau symudol, llechen, gliniadur.
Statws cydymffurfio
Mae cynnyrch Culture Shift yn cynnwys dwy wefan wahanol: gwefan gyhoeddus y gellir ei haddasu, a dangosfwrdd gweinyddol. Mae'r gwefannau hyn wedi'u datblygu mewn modd sy’n cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, fersiwn 2.1 i safon AA (mae hyn yn unol â chanllawiau llywodraeth y DU).
Pa mor hygyrch yw’r wefan
Er nad sefydliad sector cyhoeddus yw Culture Shift, rydyn ni’n cydnabod bod gan lawer o'n cwsmeriaid rwymedigaethau o dan Reoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018, yn ogystal â'n cyfrifoldebau cyfreithiol o dan gyfraith y DU a'n cyfrifoldebau moesegol yn ddinasyddion da. Mae'r datganiad hwn yn sôn am ein safonau hygyrchedd ac yn helpu ein cwsmeriaid i fodloni eu gofynion cydymffurfio eu hunain.
Rydyn ni’n cydnabod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch, ond rydyn ni’n gweithio'n barhaus i ddatblygu a gwella’r meysydd hyn.
Beth i'w wneud os na allwch chi gyrchu’r wefan hon?
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am Adrodd a Chymorth gan Culture Shift mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch neu brint bras, anfonwch e-bost at unai Staffreportsupport@caerdydd.ac.uk ar gyfer staff neu Studentsupportinterventionteam@caerdydd.ac.uk ar gyfer myfyrwyr.
Sut mae'r wefan yn cael ei phrofi?
Gan mai datrysiad SaaS trydydd parti yw hwn, mae'r gwerthwr wedi datgan ei fod yn defnyddio adnodd o'r enw Pa11y. Defnyddir Pa11y ar y wefan Dangosfwrdd ac Arddangos i wirio cydymffurfiaeth â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, fersiwn 2.1 i safon AA. Pan fydd Pa11y yn canfod problem, mae Culture Shift yn trin y rhain fel materion blaenoriaeth uchel. Mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd ar y system hon ar gael yma.
Adborth a manylion cyswllt
I roi gwybod am unrhyw achosion pellach o ddiffyg cydymffurfio a gofyn am wybodaeth a chyd-destun y tu hwnt i gwmpas y gyfarwyddeb, e-bostiwch Staffreportsupport@caerdydd.ac.uk ar gyfer staff a studentsupportinterventionteam@caerdydd.ac.uk ar gyfer myfyrwyr
Y weithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.