Delio â'r mater yn anffurfiol ac yn ffurfiol
Gellir mynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol mewn sawl ffordd, a bydd y dull gweithredu mwyaf priodol yn amrywio yn ôl manylion yr ymddygiad .
Prosesau anffurfiol
Pan fydd ymddygiad pobl eraill yn peri gofid, ofn neu gywilydd ichi, gall y mater deimlo'n llethol. Bydd trafod amdano gyda rhywun yn rhoi cymorth i chi a gall hefyd eich helpu i benderfynu sut rydych am ddelio â'r mater. Mae'n bwysig ystyried y ffordd orau o atal y mater rhag gwaethygu.
Efallai y byddwch yn penderfynu cysylltu â'r unigolyn yn uniongyrchol, naill ai yn bersonol neu'n ysgrifenedig. Mae'n bosibl nad yw'r unigolyn yn ymwybodol o effaith ei ymddygiad ac mae'n bosibl y bydd y dull hwn o gysylltu’n uniongyrchol yn ffordd gyflym ac effeithiol o unioni'r sefyllfa. Cofiwch y gallai tôn unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig gael ei chamddehongli felly mae'n well ystyried y geiriad yn ofalus cyn ei anfon.
Mae’n bosibl y byddwch yn dewis codi'r mater yn anffurfiol yn eich Ysgol, gyda'ch tiwtor personol, gyda'ch goruchwylydd, gyda Phennaeth yr Ysgol, gyda'r Tîm Rheoli Preswyl neu gydag aelod arall o'r staff. Byddan nhw wedyn yn gweithio tuag at ddatrys y mater gan ddefnyddio dulliau sy’n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain):
- cynnal cyfarfod anffurfiol rhwng y partïon ac unrhyw rai eraill a allai helpu i ddatrys y sefyllfa (er enghraifft Tiwtor neu Oruchwyliwr)
- siarad ar wahân â'r unigolion dan sylw
- defnyddio dulliau adferol i gynyddu ymwybyddiaeth o effaith ymddygiad ac ailadeiladu perthnasoedd.
Gallwch ofyn am arweiniad gan dîm Cymorth a Lles Myfyrwyr a'r Ganolfan Gynghori Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr ar ba brosesau anffurfiol i'w defnyddio.
Gweithdrefnau ffurfiol
Pan fyddwch yn gwneud cwyn ffurfiol i'r Brifysgol ynghylch aflonyddu, bwlio neu erledigaeth, dylid ei chodi gyda'r tîm Achosion Myfyrwyr yn yr Adran Cymorth Academaidd a Gwasanaethau Myfyrwyr o dan y gweithdrefnau canlynol:
- y Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr - pan fydd eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad un o aelodau o staff Prifysgol Caerdydd. Pan gaiff honiad o aflonyddu, bwlio neu erledigaeth ei gadarnhau gellir cymryd camau disgyblu yn erbyn yr aelod o staff ac mewn achosion difrifol rhoddir gwybod i'r heddlu am y mater
- y Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr - pan fydd eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad Cyd-fyfyriwr Ym Mhrifysgol Caerdydd. Pan fydd yn briodol gwneud hynny, gall y Cofrestrydd Academaidd, ar y cyd â phennaeth yr Ysgol, benderfynu ymchwilio i'r honiadau dan y Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer. Pan gadarnheir yr honiad, bydd cosbau neu sancsiynau'n cael eu hysgwyddo yn unol â Gweithdrefnau Ymddygiad Myfyrwyr neu Addasrwydd i Ymarfer pan fo'n briodol.
Gweithdrefnau allanol
Yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol mae'n debygol y byddwch yn dod i gysylltiad â thrydydd partïon nad ydyn nhw’n fyfyrwyr nac yn aelodau o staff.
Contractwyr neu gyflenwyr nwyddau
Mae'r Brifysgol yn cyfleu ei safbwynt ar safonau ymddygiad disgwyliedig i'w chontractwyr a chyflenwyr nwyddau a gwasanaethau.
Pan fyddwch yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol yn erbyn ymddygiad contractwr neu gyflenwr nwyddau a gwasanaethau, cysylltwch â staff lleol y Brifysgol (e.e. yn eich Ysgol, eich preswylfa, Gwasanaethau Campws neu Wasanaethau Myfyrwyr) a byddant yn darparu cymorth ac arweiniad i chi.
Lleoliadau gwaith neu astudio
Os ydych am godi mater o fewn eich gwaith neu'ch darparwyr lleoliadau astudio, dylid gwneud hynny drwy weithdrefnau'r sefydliad.
Os yw'r lleoliad wedi'i drefnu gan y Brifysgol mae’n bosibl y byddwn ni’n gallu helpu i egluro materion rydych yn eu profi i'ch darparwr a thrafod camau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'n bosibl y bydd yn gyfyngedig o ran yr hyn y gellir ei gyflawni, yn enwedig ar gyfer lleoliadau tramor lle y mae fframweithiau cyfreithiol yn wahanol i rai'r DU.
Beth bynnag, gallwch geisio cymorth gan y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau neu Dîm Cymorth a Lles Myfyrwyr.
Undeb y Myfyrwyr
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn yn ymwneud ag ymddygiad staff Undeb y Myfyrwyr, dylid gwneud hynny drwy Weithdrefn Cwynion Undeb y Myfyrwyr.
Cyfrinachedd
Yn unol â Pholisi a Chanllawiau Cyfrinachedd y Brifysgol, ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ac eithrio "pan fydd buddiannau hanfodol unrhyw berson o dan fygythiad ac y caiff y datgeliad ei wneud i berson perthnasol, priodol". Fe'ch atgoffir hefyd o'u cyfrifoldebau o dan y polisi hwn.
Efallai yr hoffech nodi y gallai gwneud honiadau'n gyhoeddus, boed ar lafar neu ar-lein, fod yn wrthgynhyrchiol a rhwystro'r mater rhag cael ei ddatrys. Gallai’r math hwn o ymddygiad gael ei ystyried fel bwlio o dan Bolisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio, yn arbennig lle gwelir bod honiadau’n ddi-sail yn y pendraw.
Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd