Gwneud cwyn
Rydym yn cydnabod y gallai fod adegau pan eich bod yn anfodlon â'r cyfleoedd, y gwasanaethau a'r cyfleusterau a'ch bod eisiau cwyno.
Mae llawer o ffyrdd i chi roi adborth ar agweddau ar eich profiad fel myfyriwr e.e. drwy gynrychiolwyr myfyrwyr, adborth ac arolygon modiwlau.
Sylwch fod y wybodaeth a nodir isod yn benodol i roi arweiniad am broses gwyno'r Brifysgol. Os hoffech roi gwybod am bryder iechyd meddwl difrifol neu os ydych wedi profi unrhyw fath o drais a cham-drin naill ai ar eich cyfer chi neu ar ran myfyriwr arall ym Mhrifysgol Caerdydd, rhowch wybod i ni drwy'r teclyn Adrodd a Chymorth.
Trefn gwyno myfyrwyr
Mae'r weithdrefn gwyno i fyfyrwyr yn esbonio sut mae gan unrhyw fyfyriwr sydd wedi ymrestru/cofrestru yr hawl i gyflwyno cwyn. Mae'r weithdrefn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch yr opsiwn o gyflwyno cwyn fel grŵp ac yn esbonio'r amgylchiadau lle gellir penodi cynrychiolydd.
Nid yw'r weithdrefn hon yn darparu canlyniad academaidd. Os hoffech gael canlyniad academaidd a/neu herio unrhyw benderfyniad academaidd mewn perthynas â'ch canlyniadau, bydd angen i chi gyflwyno apêl academaidd o dan y Weithdrefn Apeliadau Academaidd.
Dilynwch y canllawiau isod ar gyfer mathau eraill o gwynion.
Gwybodaeth am wneud cwyn, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael, gwybodaeth gyswllt ddefnyddiol a'r camau amrywiol.
Lawrlwytho'r ddogfen (PDF, 231.4 KB)
(Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch trwy e-bostio web@caerdydd.ac.uk. Cofiwch gynnwys yr offer cynorthwyol rydych yn eu defnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch os gwelwch yn dda)
Mae terfynau amser i'r weithdrefn; mae'n rhaid cyflwyno cwyn o fewn 28 diwrnod o'r tro cyntaf i'r pryder godi – neu'r tro diwethaf i'r hyn sydd o dan sylw ddigwydd, os yw'n barhaus.
Bydd cwynion a gyflwynwyd ar ôl 28 diwrnod ond yn gymwys i gael eu hystyried os ydych yn gallu dangos rheswm eithriadol (gyda thystiolaeth annibynnol) ynghylch pam nad oeddech yn gallu cyflwyno o fewn yr amserlen arferol.
Mae'r weithdrefn yn datgan y gallwch gyflwyno cwyn ynghylch y canlynol:
- cam(au) honedig aelod o'r staff
- cam(au) honedig myfyriwr
- os teimlwch eich bod dioddef bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, neu drais rhywiol gan rywun yng nghymuned y Brifysgol
- afreoleidd-dra wrth gyflwyno rhaglen astudio
- ansawdd neu fynediad at oruchwyliaeth
- materion ym ymwneud â'ch lleoliad neu'ch blwyddyn ar leoliad
- ansawdd cyflesterau, gwasanaethau, neu adnoddau dysgu
Mae'r weithdrefn yn amlinellu'r camau gwahanol ar gyfer ystyried eich cwyn, yn cynnwys cam adolygu, sef rhan olaf prosesau mewnol y Brifysgol.
Mae cwynion cymwys sy'n codi materion difrifol neu gymhleth yn fwy tebygol o gael eu cyfeirio i’w hystyried yn unol â cham 2 ffurfiol, yn hytrach na cham 1 anffurfiol.
Bydd cwyn sy’n codi materion sy’n ymwneud ag aflonyddu neu ymosodiad rhywiol neu hiliol neu gasineb, neu oruchwyliaeth yn ystod astudiaethau ymchwil ôl-raddedig fel arfer yn cael ei hystyried o dan gam 2.
Cwblhau gweithdrefnau
Byddwn yn anfon llythyr atoch o'r enw "Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau" pan eich bod wedi dod i derfyn ein gweithdrefnau ac nad oes camau mewnol pellach y gallwch eu cymryd. Os nad yw eich cwyn yn cael ei gadarnhau, cewch Lythyr Cwblhau Gweithdrefnau oddi wrthym yn ddiofyn. Os yw eich cwyn yn cael ei chadarnhau, neu ei chadarnhau'n rhannol, gallwch ofyn am Lythyr Cwblhau Gweithdrefnau os ydych eisiau un. Mae rhagor o wybodaeth am Lythyron Cwblhau Gweithdrefnau, a phryd ddylech disgwyl cael un, ar gael.
Cyflwyno cwyn
Mae'n rhaid i chi gyflwyno'r gwyn i Weinyddwr Cwynion eich Ysgol, neu ar gyfer y Coleg neu'r Adran lle cododd y materion os yn briodol, ynghyd â'r dogfennau/tystiolaeth rydych eisiau dibynnu arnynt.
Ffurflen cwynion myfyrwyr
Mae'r ffurflen hon i'w chwblhau gan fyfyriwr sy'n dymuno cyflwyno cwyn. Lawrlwytho'r ddogfen (Word, 144.0 KB)
Ffurflen Awdurdodi i benodi cynrychiolydd yn y Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr
Mae'r ffurflen hon i'w chwblhau i benodi cynrychiolydd yn y Gweithdrefn Gwyno i Fyrfyrwyr. Lawrlwytho'r ddogfen (Word, 24.3 KB)
Ffurflen rhestr o aelodau grŵp
Mae'r ffurflen hon i'w chwblhau gan y Llefarydd Grŵp penodedig. Lawrlwytho'r ddogfen (Word, 52.7 KB)
Ffurflen llefarydd y grŵp
Rhaid i bob myfyriwr sy'n rhan o'r gŵyn grŵp lenwi'r ffurflen hon. Lawrlwytho'r ddogfen (Word, 55.2 KB)
Gwneud cais am fformat hygyrch
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch trwy e-bostio web@caerdydd.ac.uk. Cofiwch gynnwys yr offer cynorthwyol rydych yn eu defnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch os gwelwch yn dda.
Cyngor annibynnol
Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr lle mae cynghorwyr a hyfforddwyd yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol yn rhad ac am ddim, yn ogystal â chefnogaeth a chynrychiolaeth ynghylch rheoliadau'r Brifysgol.
Canolfan Cyngor i Fyfyrwyr
- advice@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2078 1410
- Undeb y Myfyrwyr
Mae Swyddfa’r Dyfarnwr Allanol ar gyfer Addysg Uwch (OIA) yn cynnal cynllun annibynnol er mwyn adolygu cwynion myfyrwyr.
Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r cynllun hwn. Os ydych yn anhapus â'r canlyniad gallwch ofyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) adolygu eich cwyn. Rhagor o wybodaeth am godi cwyn gyda'r OIA, yr hyn y mae'n gallu ac nad yw'n gallu ystyried, a'r hyn y gall wneud i unioni pethau.
Fel arfer, mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau holl gamau'r gweithdrefnau cwyno i fyfyrwyr yn y Brifysgol cyn y gallwch godi cwyn gyda'r OIA..