Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn wasanaeth cyngor rhad ac am ddim, cyfrinachol ac annibynnol ar gyfer Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Maent yn annibynnol ar y Brifysgol, sy'n golygu y gallant gynghori a chynrychioli myfyrwyr ym mholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol.

Eu rôl sylfaenol yw rhoi cyngor a chanllawiau diduedd i chi a'ch helpu i ddeall y dewisiadau sydd ar gael i chi.

Gallant roi cyngor ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys academaeg, cwynion, defnyddwyr, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), cyflogaeth, iechyd a lles, tai ac arian.

Mae eu manylion cyswllt ar gael trwy dudalennau gwe Undeb y Myfyrwyr.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd