Os ydych chi’n poeni am rywun

Nid yw'n hawdd gwybod sut i gefnogi myfyriwr sy'n profi cam-drin, ond gallwch wneud gwahaniaeth.

Rhybuddion baner coch

Rhybuddion baner coch yw’r arwyddion sy’n dangos efallai bod rhywun yn dioddef o drais neu gam-drin.  Er nad yw’r rhain yn arwyddion sicr, dylech boeni am eich ffrind neu anwylyd os yw’n gwneud y canlynol:

  • ynysu ei hun
  • newid y ffordd mae’n gwisgo neu’n edrych
  • rhoi'r gorau i fynychu darlithoedd neu fynd i’r gwaith
  • dod yn gyfrinachgar
  • arddangos cleisiau neu anafiadau heb esboniad
  • cyrraedd yn hwyr i achlysuron cymdeithasol yn aml
  • rhoi ei hun i lawr
  • bod yn ddiofal am ei olwg
  • yn cael anhawster canolbwyntio (a allai arwain at berfformiad gwael yn y brifysgol).

Sut y gallwch chi helpu

Peidiwch â herio’r unigolyn sy’n gyfrifol am y cam-drin. Ni waeth pa mor ddengar yw’r temtasiwn, gallwch ddwysáu’r cam-drin drwy herio.

Gofyn a gwrando

Nid oes rhaid ichi fod yn sicr bod eich ffrind neu anwylyd yn profi trais a cham-drin er mwyn siarad ag ef/hi.

Neilltuwch adeg i siarad pan na fydd neb yn tarfu arnoch. Byddwch yn agored ac yn onest pan ydych yn dweud wrth eich ffrind eich bod yn poeni am ei ddiogelwch neu am ei berthynas. Dywedwch wrth eich ffrind eich bod chi yno ar ei gyfer, ond peidiwch â’i orfodi i siarad â chi – gadewch iddo/iddi ymddiried ynoch chi yn ei amser ei hun.

Rhowch sicrwydd i’ch ffrind nad ef/hi sydd ar fai. Rhowch wybod iddo/iddi nad yw ar ei ben ei hun a bod pobl ar gael sy’n barod i helpu. Cofiwch pa mor anodd yw hi i siarad am ei brofiadau a byddwch yn ystyriol felly.

Dim ond drwy siarad a bod yno ar ei gyfer, rydych chi eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Mae cael rhywun sy’n poeni digon i ofyn am y cam-drin yn gallu helpu i ymdopi â’r teimladau o unigrwydd.

Peidio â bod yn feirniadol

Mae'n anodd gweld rhywun yr ydych yn poeni amdano yn ceisio ymdopi â phrofiadau o drais a cham-drin, neu’n dychwelyd at berthynas gamdriniol. Fodd bynnag, parchwch ei ddewis. Rydych wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i helpu.

Peidiwch â rhoi bai neu gywilydd ar eich ffrind na gwneud iddo/iddi deimlo’n euog, a byddwch yn gefnogol o hyd. Gall pobl sydd wedi dioddef o drais a cham-drin gredu mai nhw sydd ar fai.

Helpwch ef/hi i ailystyried ei gryfderau a'i sgiliau, a chanolbwyntio ar y ffaith nad oes neb yn haeddu profi trais neu gam-drin, ac ni ddylai dioddefwyr gael eu beio.

Annog ef/hi i gael help

Cofiwch nad ydych yn gallu achub eich ffrind ar eich pen eich hun. Ef/hi sy’n gorfod gwneud y penderfyniad ynglŷn â phryd i gael help. Fodd bynnag, gydag anogaeth a dewisiadau ar gyfer cymorth, efallai y bydd eich ffrind yn penderfynu ei fod yn bryd i gael help.

Cefnogi eich ffrind

Mae hyn yn cynnwys gwneud gweithgareddau bob dydd gydag ef neu hi, yn ogystal â’i annog i fynd yn ôl at rywbeth roedd yn ei hoffi yn y gorffennol. Er enghraifft, os oedd yn aelod o dîm chwaraeon, neu’n rhan o gymdeithas, anogwch eich ffrind i fynd yn ôl ato. Mae'n caniatáu i’ch ffrind gael ymdeimlad o reolaeth a hunaniaeth eto.

Creu cynllun diogelwch

Mae cynllun diogelwch yn helpu i leihau risg eich ffrind o niwed trwy ei helpu i feddwl am yr hyn y dylai wneud os yw’n dechrau teimlo'n anniogel (pwy i alw, pa wasanaethau cymorth sydd ar gael).

Cysylltwch â ni

Yn ogystal, gallwch gysylltu â ni os hoffech roi gwybod am rywun sy'n profi trais neu gamdriniaeth.

I gael mynediad at y cymorth sydd ar gael drwy’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr, mae’n ofynnol i chi wneud datgeliad a nodwyd gan ddefnyddio ein teclyn Adrodd a Chymorth.

Mae opsiwn datgelu dienw hefyd ar gael gan ddefnyddio'r ffurflen hon. Gallwch ddefnyddio hyn i'n gwneud yn ymwybodol o'ch profiadau heb ddatgelu pwy ydych chi, sy'n ein helpu i adnabod patrymau trais a chamdriniaeth sy'n effeithio ar ein myfyrwyr. Os byddwch yn dewis gwneud datgeliad dienw ni fyddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd