Urddas yn y gwaith ac wrth astudio

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd a diwylliant gweithio, dysgu ac ymchwil lle y croesewir gwahaniaethau ac lle y mae pobl yn gwybod bod aflonyddu a bwlio yn annerbyniol.

Mae sicrhau bod gan staff a myfyrwyr yr hyder i ddelio â bwlio ac aflonyddu heb ofni erledigaeth yn ganolog i'n polisi.

Nid ydym yn goddef unrhyw ymddygiadau sy'n aflonyddu, yn bwlio neu'n erlid. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw adroddiadau o fwlio, aflonyddu neu erledigaeth yn cael eu trin a'u trafod yn ddifrifol, waeth beth yw lefel swydd y rhai dan sylw.

Rydym yn ymrwymedig i:

  • feithrin parch a dealltwriaeth ar y cyd rhwng unigolion ac o fewn ein cymunedau cyfansoddol
  • hyrwyddo cyfle cyfartal ymhlith cyflogeion a myfyrwyr fel ei gilydd

Ble i gael cymorth

Mae nifer o bobl a all helpu:

Mae Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr y brifysgol ar gael i siarad â myfyrwyr a'u cefnogi os ydynt yn dioddef o unrhyw fath o drais neu gam-drin, gan gynnwys aflonyddu, trosedd casineb, stelcian, cam-drin mewn perthynas, trais rhywiol ac unrhyw ymddygiad amhriodol arall. Gall y tîm hwn eich cefnogi yn y ffyrdd canlynol:

  • eich helpu i reoli eu diogelwch os yw hyn yn destun pryder brys
  • cysylltu â chi dros y ffôn, ar-lein, neu wyneb yn wyneb i drafod yr hyn rydych wedi'i brofi ac i ystyried opsiynau ar gyfer cefnogaeth
  • cynnig cefnogaeth ymarferol gydag anghenion tai, ariannol ac academaidd, gyda gwybodaeth benodol ynglŷn â beth i'w wneud os ydych chi'n byw neu'n astudio gyda rhywun sydd wedi bod yn dreisgar neu'n cam-drin
  • rhannu gwybodaeth am wasanaethau arbenigol
  • esbonio opsiynau hysbysu a chynnig cefnogaeth yn ystod y broses, os yw hwn yn opsiwn addas
  • esbonio gweithdrefnau cwyno'r brifysgol

Gwneud datgeliad

I gael mynediad at y cymorth sydd ar gael drwy’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr, mae’n ofynnol i chi wneud datgeliad a nodwyd gan ddefnyddio ein platfform Adrodd & Chymorth.

Mae opsiwn datgelu dienw hefyd ar gael gan ddefnyddio Adrodd & Chymorth. Gallwch ddefnyddio hyn i'n gwneud yn ymwybodol o'ch profiadau heb ddatgelu pwy ydych chi, sy'n ein helpu i adnabod patrymau trais a chamdriniaeth sy'n effeithio ar ein myfyrwyr. Os byddwch yn dewis gwneud datgeliad dienw ni fyddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Llinell ffôn y tu allan i oriau

Llinell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800

Gwasanaeth cefnogaeth a gwybodaeth cyfrinachol cenedlaethol yn rhad ac am ddim dros y ffôn yw llinell gymorth Byw Heb Ofn. Fe’i cyflwynir gan Gymorth i Ferched Cymru ar gyfer unrhyw un sy’n profi trais rhywiol, cam-drin domestig, neu ffurfiau eraill o drais yn erbyn menywod, neu unrhyw un sydd am ragor o wybodaeth ynghylch y gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Ar agor 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn.

Rhyddid i lefaru

Mae Deddf Addysg (Rhif 2) 1986 yn gosod cyfrifoldeb ar y Brifysgol i amddiffyn a hyrwyddo rhyddid i lefaru cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac o fewn y gyfraith i staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd. Mae gan y Brifysgol weithdrefn sy’n gwneud yn siŵr nad yw ymarfer eich rhyddid i lefaru gyfystyr ag aflonyddu anghyfreithlon.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd