Y cymorth sydd ar gael
Chi sydd i benderfynu a ydych am ddweud wrth rywun am eich profiad neu beidio, ond hoffem eich sicrhau bod cymorth ar gael i chi.
Cymorth ar unwaith
Mewn argyfwng, dylech ffonio 999 a rhoi gwybod i Dîm Diogelwch y Brifysgol drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444.
Pan nad oes argyfwng
- Efallai yr hoffech roi gwybod i Heddlu De Cymru drwy ffonio 101 i wneud cwyn neu drafod pryderon diogelwch yn anffurfiol.
- Gallwch gael cyngor a gwybodaeth gan y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb – llinell gymorth i unrhyw un sydd wedi profi gwahaniaethu ym meysydd cyflogaeth, tai, addysg a thrafnidiaeth neu wrth ddefnyddio neu brynu nwyddau a gwasanaethau. Gall hefyd roi cyngor a gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â hawliau dynol.
- Gallwch ffonio llinell gymorth ACAS i gael gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim ar hawliau yn y gweithle, rheolau ac arfer gorau, gan gynnwys gwahaniaethu yn y gweithle.
Cymorth yn y Brifysgol
Gallwch gael cymorth ymarferol gan Dîm Ymateb i Ddatgeliadau y Brifysgol. Gall y tîm roi gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys:
- rheoli eich diogelwch, os bydd hyn yn achosi pryder
- rhoi cymorth ymarferol i ddiwallu anghenion tai, anghenion ariannol ac anghenion academaidd a gwybodaeth benodol am yr hyn i’w wneud os ydych yn byw neu’n astudio gyda rhywun sydd wedi bod yn dreisgar neu ymddwyn yn ddifrïol
- eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol
- esbonio’r opsiynau o ran rhoi gwybod am y digwyddiad a chynnig cymorth wrth i chi wneud hynny
- esbonio gweithdrefnau cwyno'r Brifysgol
I gael cymorth gan y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau, cyflwynwch eich gwybodaeth trwy'r hafan Adroddiad a Chymorth.
Os byddai’n well gennych wneud datgeliad heb rannu eich manylion, gallwch hefyd wneud hyn drwy Adrodd a Chymorth. Nodwch na fydd y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau’n gallu cynnig apwyntiad i chi os byddwch yn dewis gwneud datgeliad yn ddienw.
Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd