Sut i godi pryder difrifol nad yw'n argyfwng

Os oes gennych bryderon difrifol am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch myfyriwr arall, ond nad yw'n argyfwng, efallai y bydd yn briodol cysylltu â Thîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr (SSIT) y Brifysgol - Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr - Mewnrwyd myfyrwyr - Prifysgol Caerdydd

Mae'r SSIT yn dîm o ymarferwyr arbenigol sydd â phrofiad o ddarparu cymorth mewn achosion o drais a chamdriniaeth, yn ogystal ag ymyrraeth ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys.

Mae'r SSIT yn wasanaeth sy'n gweithredu drwy apwyntiadau ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 09:00 a 16:00.

Mae'r SSIT yn rhan o Wasanaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr y Brifysgol:

Iechyd a llesiant - Mewnrwyd myfyrwyr - Prifysgol Caerdydd

Rydym yma i'ch helpu os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn profi argyfwng iechyd meddwl brys.

Gallwch wneud atgyfeiriad os byddwch yn sylwi ar:

  • newidiadau sydyn mewn ymddygiad sy'n gysylltiedig â llesiant;
  • risg i'r unigolyn ei hun (er enghraifft hunan-niweidio, patrymau bwyta anhrefnus neu gamddefnyddio sylweddau);
  • meddyliau, cynlluniau neu fwriad i gyflawni hunanladdiad;
  • arwyddion o baranoia neu seicosis.

Os ydych yn pryderu amdanoch eich hun neu am rywun arall, cyflwynwch adroddiad drwy Adrodd a Chymorth:

https://reportandsupport.cardiff.ac.uk.

Gallwn eich cefnogi drwy:

  • gynnig apwyntiadau un-i-un wyneb yn wyneb neu ar-lein;
  • darparu cymorth cyfrinachol a di-farn;
  • llunio cynllun gweithredu sy'n eich cysylltu â'r cymorth mwyaf priodol.

Gallwch ddewis rhoi gwybod yn ddienw. Ni fyddwn yn datgelu ffynhonnell y pryder, ond dylech fod yn ymwybodol y gall y myfyriwr ddyfalu pwy gyflwynodd yr adroddiad.

Sut i gael cymorth pan nad yw'n argyfwng

Mae Gwasanaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 16:30, ac eithrio ar wyliau banc - Apwyntiadau cwnsela a lles - Mewnrwyd myfyrwyr - Prifysgol Caerdydd

Gallwch gael cymorth gan y Gwasanaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr os yw'r sefyllfa'n ymwneud â:

  • gofid emosiynol;
  • straen a gorbryder;
  • iselder;
  • unigrwydd;
  • iechyd meddwl.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd