Sut i Gyflwyno Adroddiad ar Ran Aelod o Staff

Bydd y dudalen hon yn eich tywys drwy gyflwyno adroddiad ar gyfer aelod o staff. Mae’r ddolen isod yn darparu’r deunydd hwn mewn fformat PDF y gellir ei lawrlwytho.

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i lenwi'r ffurflen Adrodd a Chymorth pan fyddwch chi'n cyflwyno adroddiad ar ran aelod o staff. Mae'n cynnig cyfarwyddiadau cam wrth gam ac yn disgrifio pa wybodaeth sydd ei hangen.

Mae modd i chi weld y ffurflen yn:

https://adroddachymorth.cardiff.ac.uk

Gallwch chi gyflwyno adroddiad:

  • Gyda eich manylion cyswllt, neu
  • Yn ddienw

Gallwch chi newid rhwng yr opsiynau hyn ar unrhyw adeg wrth lenwi'r ffurflen.

Gallwch chi lenwi'r ffurflen hon gan ddefnyddio llywio bysellfwrdd neu dechnoleg gynorthwyol. Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen neu os oes angen addasiadau arnoch, cysylltwch â'r tîm AD yn staffreportsupport@caerdydd.ac.uk.

Tudalen 1 – Disgrifiwch yr hyn a ddigwyddodd

 Defnyddiwch y blwch testun rhydd i esbonio'r digwyddiad yn eich geiriau eich hun. Nid oes terfyn nodau. Ychwanegwch gymaint o fanylion ag y teimlwch sy'n briodol.

 

Gallwch chi uwchlwytho delweddau fel sgrinluniau o negeseuon neu e-byst neu luniau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad. Ni ellir uwchlwytho fideos. Nid yw'r cwestiwn hwn yn ymddangos ar yr adroddiad dienw.

 

 

Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio orau'r person yr effeithiwyd arno gan y digwyddiad:

  • Anfonir adroddiadau sy'n ymwneud ag aelodau o’r staff at y tîm Adnoddau Dynol (AD).
  • Anfonir adroddiadau sy'n ymwneud ag unrhyw un arall at y Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr (SSIT) yn y lle cyntaf.

Mae'r cwestiwn hwn yn ein helpu i ddeall a yw'r adroddiad ar eich cyfer chi, neu rywun arall.

Dewiswch “Rhywun arall” os ydych chi'n cyflwyno'r adroddiad ar ran person arall (e.e., aelod o'r tîm rydych chi'n ei reoli).

 

Tudalen 2 – Pryd y Digwyddodd y Digwyddiad

Rhowch wybodaeth am y dyddiad neu'r amserlen fras ar gyfer y digwyddiad ac a ddigwyddodd yr ymddygiad unwaith neu dro ar ôl tro

Tudalen 3 – Math o ddigwyddiad

Mae'r dudalen hon yn ein helpu i ddeall beth yw math y digwyddiad. Gallwch chi ddewis mwy nag un opsiwn.

 

Tudalen 4 – Gwybodaeth am y person yr effeithir arno

(Dim ond wrth adrodd ar ran rhywun arall y mae'r dudalen hon yn ymddangos.)

Rhowch fanylion yr aelod o staff, gan gynnwys eu henw. Os nad yw'r aelod o staff yn dymuno cael ei enwi, gallwch chi ysgrifennu: “Mae'n well gen i beidio â dweud.”

 

Tudalen 5 – Ble mae'r Aelod o Staff yn Gweithio

Dewiswch yr ysgol, yr adran, neu faes y Gwasanaethau Proffesiynol lle mae'r aelod o staff wedi'i leoli. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei anfon at y tîm AD cywir.

Tudalen 6 – Leoliad y digwyddiad

Cadarnhewch ble digwyddodd y digwyddiad. Mae enghreifftiau wedi cael eu darparu. 

Tudalen 7 – Pwy Gyflawnodd yr Ymddygiad

Darparwch unrhyw wybodaeth sydd gennych chi am y person sy'n gyfrifol am yr ymddygiad. Os nad ydych chi'n gwybod yr wybodaeth hon, atebwch hyd eithaf eich gwybodaeth.

 

Tudalen 8 – Math o Wahaniaethu (Os yn berthnasol)

Os ydych chi'n credu bod gwahaniaethu wedi digwydd, gallwch chi ddewis un neu fwy o nodweddion gwarchodedig a oedd yn berthnasol

 

Tudalen 9 – Eich manylion cyswllt

Os ydych chi'n cyflwyno'r ffurflen yn ddienw, ni fydd y dudalen hon yn ymddangos

Rhowch eich manylion cyswllt i ni ar y dudalen hon. Mae hyn yn caniatáu i'r tîm AD gysylltu â chi ‑os oes angen.

 

Tudalen 10 – Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwestiynau hyn yn benodol i lwybro'r staff.

Os ydych chi'n cyflwyno'r ffurflen yn ddienw, ni fydd y cwestiwn hwn yn ymddangos

Os byddwch chi’n ticio ie am gymorth pellach gan Adnoddau Dynol, bydd yn sicrhau bod eich adroddiad yn cael ei ddosbarthu i'r aelod Adnoddau Dynol priodol a fydd wedyn yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch adroddiad.

Os byddwch chi’n clicio na, bydd eich adroddiad yn cael ei gau a'i ddefnyddio ar gyfer dadansoddi data.

Byddwch chi’n derbyn e-bost yn cadarnhau sut mae eich adroddiad wedi cael ei brosesu.

Os byddwch chi’n clicio ie, bydd blwch testun rhydd yn ymddangos er mwyn i chi allu rhoi rhagor o wybodaeth am bwy rydych chi wedi siarad â nhw o'r blaen, gallwch chi roi enwau penodol pobl i ni, neu sut maen nhw'n perthyn i chi (e.e. rheolwr llinell, pennaeth ysgol, cynghorydd AD lleol ac ati).

Tudalen 11– Gwybodaeth am Gydraddoldeb

Mae'r cwestiynau hyn yn helpu'r Brifysgol i fonitro cydraddoldeb.

Gallwch chi ddewis:

  • ateb pob cwestiwn
  • hepgor unrhyw gwestiynau
  • hepgor y dudalen yn gyfan gwbl

Nid yw'r cwestiynau hyn yn orfodol.

 

Adolygiad Terfynol a Chyflwyno Eich Adroddiad

Cyn anfon y ffurflen, byddwch chi’n gweld tudalen crynodeb yn dangos eich holl atebion.

Gallwch chi glicio “Newid” wrth ymyl unrhyw ateb i’w olygu. Pan fyddwch chi'n fodlon, dewiswch “Anfon ffurflen” i gyflwyno'ch adroddiad. Ar ôl i chi gyflwyno eich adroddiad, ni fyddwch chi’n gallu newid unrhyw un o'ch atebion.

 

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd