Os oes angen cymorth ar unwaith arnoch, cliciwchyma
Os byddwch chi’n profi camymddwyn rhywiol neu aflonyddu rhywiol
Cewch eich annog i reportio achosion o aflonyddu a/neu gamymddwyn rhywiol cyn gynted ag y bo modd. Fodd bynnag, nid oes terfyn amser a gellir reportio achosion fisoedd lawer neu hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach.
Pan fyddwch chi’n reportio achosion
Mae llawer o resymau pam y gallech chi deimlo’n ansicr ynglŷn â reportio digwyddiad rydych chi wedi'i brofi neu ei weld.
Gallwch chi fod yn dawel eich meddwl y byddwn ni’n cymryd pob honiad o ddifrif, ni waeth beth fo statws y rhai dan sylw, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw ddial ar unigolyn sy’n gwneud cwyn yn unol â’r polisi hwn.
Byddwch chi’n cael eich cefnogi i wneud dewis gwybodus ynghylch p’un ai i wneud cwyn ffurfiol ai peidio, a bydd trafodaethau cychwynnol yn cael eu cynnal yn gyfrinachol. Bydd unrhyw ymchwiliadau dilynol yn cael eu rheoli mewn ffordd deg a sensitif.
Gall myfyrwyr reportio unrhyw ddigwyddiadau yn ddienw neu drwy roi eu manylion. Gall Ymarferwyr Arbenigol yn y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth Myfyrwyr (SSIT) fod o gymorth wrth iddyn nhw benderfynu beth i’w wneud nesaf, yn ogystal â chefnogi unrhyw effaith ar eu hiechyd meddwl neu eu lles.
Gall staff reportio unrhyw ddigwyddiadau yn ddienw neu drwy roi eu manylion. Os bydd aelod staff yn reportio digwyddiad gan roi ei fanylion cyswllt, bydd yn cael cefnogaeth gan ei dîm AD lleol ar sut i fwrw ymlaen, a bydd yn cael ei annog i ddefnyddio'r rhaglen cymorth i weithwyr ar gyfer pryderon iechyd meddwl a lles.
DefnyddiwchAdrodd a Chymorthi roi manylion eich profiad i ni a byddwn yn eich cefnogi drwy'r camau gweithredu rydych chi'n dewis eu dilyn.