Os yw hwn yn argyfwng

Os yw hwn yn argyfwng, cysylltwch â'r gwasanaethau brys. Nid yw'r tîm SSIT yn wasanaeth cymorth brys ac mae'n gweithredu drwy apwyntiadau yn unig.

Gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys drwy ffonio 999.

Os oes gennych bryder brys ynghylch iechyd meddwl, ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2.

Pwy ydym ni

Nid yw SSIT yn wasanaeth brys ac mae ar agor yn ystod oriau swyddfa yn unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae SSIT yn rhan o wasanaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr y Brifysgol.

Iechyd a Lles Myfyrwyr - Intranet - Cardiff University

Pa wasanaethau mae SSIT yn eu cynnig?

Mae SSIT yn darparu cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan:

  • trais, camdriniaeth neu unrhyw ymddygiad amhriodol arall sy'n achosi tramgwydd neu ofid, ni waeth pryd y digwyddodd hyn, ac ni waeth a oes bwriad i roi gwybod yn ffurfiol i'r Brifysgol neu'r Heddlu ai peidio
  • anghenion iechyd meddwl brys neu fyfyrwyr sy'n peri risg iddynt eu hunain a/neu i eraill
  • honiadau o ymddygiad pryderus neu amhriodol.

Mae ymarferwyr arbenigol yn darparu cymorth wedi'i deilwra, cyfrinachol ac anfeirniadol sy'n diwallu anghenion ac amgylchiadau pob myfyriwr.

Cynigir cymorth drwy sesiynau un-i-un. Gall y cymorth gynnwys:

  • asesiadau risg arbenigol
  • cynllunio diogelwch
  • cyfeirio at wasanaethau perthnasol
  • rhannu adnoddau
  • cymorth i gael mynediad at wasanaethau mewnol ac allanol priodol
  • gwybodaeth am brosesau adrodd ffurfiol (os mai dyna yw dymuniad y myfyriwr).

Pryd a sut i wneud atgyfeiriad at SSIT

Gall cyflwyniadau sy'n briodol ar gyfer cymorth iechyd meddwl SSIT gynnwys:

  • newid sylweddol mewn ymddygiad sy'n gysylltiedig â mater iechyd meddwl neu les
  • ymddygiad a allai beri risg i'r unigolyn ei hun, megis hunan-niweidio, bwyta anhrefnus neu gamddefnyddio sylweddau
  • ymddygiad a allai beri risg i eraill
  • meddyliau hunanladdol, gan gynnwys meddyliau, cynlluniau neu fwriad i gyflawni hunanladdiad
  • arwyddion o baranoia neu seicosis.

Bydd SSIT yn ymateb i'ch ymholiad, lle bo modd, o fewn un diwrnod rhwng 10:00 a 16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), yn ystod y tymor yn unig.

Os byddwch yn cyflwyno pryder ar ôl 16:00, caiff ei adolygu ar y diwrnod gwaith canlynol.

I wneud atgyfeiriad at SSIT, cyflwynwch eich gwybodaeth drwy Adrodd + Chymorth - Adrodd + Chymorth - Prifysgol Caerdydd. Gallwch gyflwyno eich adroddiad yn ddienw neu roi eich manylion cyswllt, ond darllenwch y wybodaeth isod cyn gwneud hynny.

Caniatâd

Os ydych yn cysylltu â SSIT drwy Report & Support ar ran myfyriwr arall, ceisiwch gael caniatâd y myfyriwr rydych yn pryderu amdano, lle bo modd, a nodwch hyn ar y ffurflen adrodd.

Os byddwch yn dewis adrodd yn ddienw, ni fyddwn yn datgelu o ble y daeth y pryder. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol y gallai'r myfyriwr ddyfalu pwy gyflwynodd yr adroddiad.

Datgelu profiad o drais neu gamdriniaeth

Mae Ymarferwyr Arbenigol SSIT ar gael i siarad â myfyrwyr a darparu cymorth ymarferol os ydynt yn profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth, gan gynnwys aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, camdriniaeth mewn perthynas ac unrhyw fath arall o ymddygiad amhriodol a allai beri gofid i fyfyrwyr.

I gysylltu â ni, cyflwynwch eich gwybodaeth drwy Adrodd + Chymorth - Adrodd + Chymorth - Prifysgol Caerdydd

Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad, lle bo modd, o fewn un diwrnod gwaith rhwng 09:00 a 16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), yn ystod y tymor yn unig. Os byddwch yn anfon e-bost atom gyda phryder ar ôl 16:00, caiff ei adolygu ar y diwrnod gwaith canlynol.

Os oes gennych gwestiynau am y broses, cysylltwch â Student Connect ar +44 (0)29 2251 8888.

Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar Cyngor neu gefnogaeth brys - Mewnrwyd myfyrwyr - Prifysgol Caerdydd

Gallwch ddarllen mwy am brofiad ein tîm yma - Cwrdd â'r Tîm Cymorth ac Ymyrraeth i Fyfyrwyr - Mewnrwyd myfyrwyr - Prifysgol Caerdydd

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd