Os yw’n argyfwng, cysylltwch â’r gwasanaethau brys. Nid yw’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr yn cynnig cymorth brys. Dim ond drwy apwyntiad y mae modd i chi gael cymorth gan y tîm. I gysylltu â’r gwasanaethau brys, ffoniwch 999. Os oes gennych chi bryder iechyd meddwl brys, ffoniwch 111, a phwyswch opsiwn 2.
Pwy ydyn ni
Nid yw’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr yn wasanaeth brys. Mae ar gael yn ystod oriau swyddfa’n unig, sef o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r tîm yn rhan o wasanaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr y Brifysgol.
Pa wasanaethau y mae'n eu cynnig?
Mae’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr y mae’r canlynol wedi effeithio arnyn nhw:
- trais, cam-drin neu unrhyw ymddygiad amhriodol arall sy'n achosi tramgwydd neu ofid, dim ots pryd y digwyddodd hynny a dim ots a ydyn nhw’n bwriadu rhoi gwybod i’r Brifysgol neu’r heddlu’n ffurfiol
- anghenion iechyd meddwl brys neu ymddygiad sy'n peri risg iddyn nhw eu hunain a/neu bobl eraill
- honiadau o ymddygiad sy’n peri pryder neu ymddygiad amhriodol
Mae ymarferwyr arbenigol yn cynnig cymorth pwrpasol, anfeirniadol a chyfrinachol sydd wedi'i deilwra i anghenion ac amgylchiadau’r myfyrwyr.
Mae cymorth yn cael ei gynnig mewn sesiynau un-i-un. Mae enghreifftiau o’r hyn y gall y tîm ei wneud i gefnogi myfyriwr yn cynnwys:
- cynnal asesiad risg arbenigol
- cynllunio diogelwch
- cyfeirio
- rhannu adnoddau
- ei helpu i gysylltu â gwasanaethau mewnol ac allanol priodol
- rhoi gwybod am y prosesau ffurfiol ar gyfer rhoi gwybod (os hoffai’r myfyriwr wneud hyn)
Pryd a sut i wneud atgyfeiriad i’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr
Mae enghreifftiau o’r hyn y mae modd i’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr roi cymorth iechyd meddwl ar ei gyfer yn cynnwys:
- newid sylweddol mewn ymddygiad sy'n ymwneud â phroblem iechyd meddwl neu les
- ymddygiad a allai achosi risg i’r myfyriwr, megis hunan-niweidio, bwyta mewn ffordd sy’n gysylltiedig ag anhwylder neu gamddefnyddio sylweddau
- ymddygiad a allai beri risg i bobl eraill
- syniadaeth am hunanladdiad, gan gynnwys unrhyw feddyliau, cynlluniau neu fwriad sy’n ymwneud ag ef
- arwyddion o baranoia neu seicosis
Lle bo modd, bydd y tîm yn eich ateb o fewn un diwrnod gwaith, rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau banc) yn ystod y tymor yn unig.
Os byddwch chi’n rhoi gwybod am bryder ar ôl 16:00, bydd y pryder yn cael sylw ar y diwrnod gwaith nesaf.
I wneud atgyfeiriad i’r tîm, cyflwynwch yr wybodaeth drwy’r offeryn Adrodd a Chymorth. Wrth geisio penderfynu a ydych chi am gyflwyno’r wybodaeth yn ddienw neu gynnwys eich manylion cyswllt, ystyriwch yr wybodaeth isod.
Cydsyniad
Os ydych chi'n cysylltu â’r Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr drwy’r offeryn Adrodd a Chymorth ar ran myfyriwr arall, nodwch hyn ar y ffurflen, a sicrhewch ganiatâd y myfyriwr rydych chi'n pryderu amdano lle bo modd.
Os byddwch chi’n dewis cyflwyno gwybodaeth yn ddienw, ni fyddwn ni’n rhannu o ble mae’r wybodaeth wedi dod, ond byddwch yn ymwybodol y gallai’r myfyriwr ddyfalu gan bwy y mae wedi dod.
Datgelu profiad o drais neu gam-drin
Os bydd myfyrwyr yn wynebu unrhyw fath o drais neu gam-drin, gan gynnwys aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin mewn perthynas neu ymddygiad annerbyniol o fath arall a all beri gofid, mae ymarferwyr arbenigol y Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr ar gael i siarad â nhw a rhoi cymorth ymarferol.
I gysylltu â nhw, cyflwynwch yr wybodaeth drwy’r offeryn Adrodd a Chymorth.
Lle bo modd, byddwn ni’n eich ateb o fewn un diwrnod gwaith, rhwng 09:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau banc) yn ystod y tymor yn unig. Os byddwch chi’n rhoi gwybod am bryder drwy e-bost ar ôl 16:00, bydd y pryder yn cael sylw ar y diwrnod gwaith nesaf. Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y broses, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Myfyrwyr drwy ffonio +44 (0) 29 2251 8888.
Mae modd gweld yr wybodaeth hon ar fewnrwyd y myfyrwyr, hefyd.
Mae rhagor o wybodaeth am brofiad ein tîm ar gael yma.