1) Beth yw adrodd a chymorth?
Mae Adrodd a Chymorth yn lwyfan diogel, cyfrinachol i'n myfyrwyr gael cymorth a rhannu pryderon. Rydyn ni’n ymateb i adroddiadau am aflonyddu, ymddygiad niweidiol, a phryderon iechyd meddwl gyda pharch a gofal i greu cymuned ddiogel i bawb. Mae pob adroddiad yn cael ei drin gan ymarferwyr arbenigol sy'n ymwybodol o drawma. Dywedwch wrthon ni am rywbeth sy'n gysylltiedig â chi eich hun neu fyfyriwr rydych chi'n poeni amdano.
2) Alla i roi gwybod am rywbeth a ddigwyddodd oddi ar y campws?
Gallwch chi roi gwybod am rywbeth ynglŷn â myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, hyd yn oed os digwyddodd y digwyddiad oddi ar y campws.
Mae Adrodd a Chymorth ar gael i'r holl staff, myfyrwyr, ymwelwyr a gwasanaethau allanol neu bersonau, i rannu pryderon am fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd ar hyn o bryd yn dioddef pryderon iechyd meddwl sylweddol, neu sydd wedi profi unrhyw fath o drais a cham-drin, ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Rydyn ni’n deall y gallai'r sefyllfaoedd hyn ddigwydd i fyfyrwyr ar gampws y brifysgol neu y tu hwnt iddo.
Os ydych chi, neu rywun arall mewn perygl o niwed uniongyrchol, neu angen cymorth meddygol brys, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999.
3) Ai’r un peth â phroses gwyno yw adrodd a chymorth?
Nage. Mae gweithdrefnau cwynion ffurfiol yn cael ei rheoli naill ai gan yr ysgol, a/neu'r Tîm Achosion Myfyrwyr, yn dibynnu ar y difrifoldeb a'r risg sy'n ymwneud â'r gŵyn.
Mae adrodd a chymorth yn llwyfan cyfrinachol ar-lein sydd wedi'i gynllunio i helpu i roi gwybod i chi am eich opsiynau a'ch arwain trwy'r rhain. Mae dau opsiwn ar gyfer datgeliad cyfrinachol ar Adrodd a Chymorth. Os ydych chi am roi cwyn ffurfiol i mewn, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
4) Beth sy'n digwydd gydag adroddiadau dienw?
Ni all adroddiadau dienw arwain at unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn enwedig os nad yw’r enw yr ydych chi’n rhoi ar gael i ni. Fodd bynnag, rydyn ni’n sicrhau bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei roi o fewn yr adroddiadau dienw yn cael ei chasglu at ddibenion data.
Wrth edrych ar y data a chadw popeth yn gyfrinachol, byddwn ni’n ceisio chwilio am unrhyw batrymau cylchol a thrafod unrhyw gamau y gall cael eu cymryd i wella diogelwch a phrofiad myfyrwyr.
5) Pa mor ddiogel yw fy ngwybodaeth?
Mae data sy’n cael eu cadw ar Adrodd a Chymorth yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data ac mae rhagor o wybodaeth am sut caiff data eu casglu a'u storio yn y polisi Preifatrwydd. Mae'r system wedi cael ei phrofi o ran diogelwch gan y datblygwr, Culture Shift, a gan y Brifysgol.
6) Beth os ydw i’n cyflwyno adroddiad ac nad yw'n cael ei gredu?
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae staff sy'n delio â datgeliadau, megis ein tîm Ymyrraeth Cymorth Myfyrwyr, wedi cael profiad a hyfforddiant o ran sut i ymateb i ddatgeliadau. Maen nhw’n cynnig lle diogel yn rhydd o farn drwy'r broses gymorth, waeth beth yw'r camau nesaf y mae myfyriwr yn dymuno eu cymryd, gan gynnwys a hoffai fynd drwy'r broses gwyno ai peidio