Sut i roi gwybod am achosion o gamymddwyn neu aflonyddu rhywiol
Fe'ch anogir i roi gwybod am achosion o aflonyddu a/neu gamymddwyn rhywiol cyn gynted ag y bo modd. Fodd bynnag, nid oes terfyn amser a gellir rhoi gwybod am achosion fisoedd lawer neu hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am achosion
Mae llawer o resymau pam y gallech fod yn ansicr ynghylch rhoi gwybod am ddigwyddiad rydych wedi'i brofi neu ei weld.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn cymryd pob honiad o ddifrif, ni waeth beth fo hynafedd y rhai dan sylw, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw ddial ar unigolyn sy’n gwneud cwyn yn unol â’r polisi hwn.
Byddwch yn cael eich cefnogi i wneud dewis gwybodus ynghylch p’un ai i wneud cwyn ffurfiol ai peidio, a bydd trafodaethau cychwynnol yn cael eu cynnal yn gyfrinachol. Bydd unrhyw ymchwiliadau dilynol yn cael eu rheoli mewn ffordd deg a sensitif.
Gall myfyrwyr adrodd am unrhyw ddigwyddiadau yn ddienw neu drwy roi eu manylion. Gall Ymarferwyr Arbenigol yn y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth Myfyrwyr (SSIT) fod o gymorth wrth iddyn nhw benderfynu beth i’w wneud nesaf, yn ogystal â chefnogi unrhyw effaith ar eu hiechyd meddwl neu eu lles.
Defnyddiwch Adrodd a Chymorth i rannu manylion eich profiad â ni a byddwn yn eich cefnogi drwy'r camau y byddwch yn dewis eu cymryd.