Adrodd + Chymorth
Adrodd a Chefnogi yw offeryn cyfrinachol Prifysgol Caerdydd ar gyfer codi pryderon a chael mynediad at gymorth.
Myfyrwyr: Bydd eich adroddiad yn mynd yn uniongyrchol at y Tîm Ymyrraeth Cymorth i Fyfyrwyr; ymarferwyr sy’n ymwybodol o drawma ac sy’n cynnig cymorth ynghylch aflonyddu, ymddygiad niweidiol, a phryderon difrifol am iechyd meddwl. Maent yn darparu cymorth ond nid ydynt yn ymchwilio i gwynion.
Gallwch godi pryderon ffurfiol drwy:
• Gweithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr ar gyfer materion sy’n ymwneud â myfyrwyr eraill.
• Gweithdrefn Cwynion Myfyrwyr ar gyfer pryderon am staff.
Staff: Bydd eich adroddiad yn mynd at y tîm AD perthnasol, a all eich tywys at gymorth priodol ar gyfer bwlio, gwahaniaethu, neu gamymddwyn rhywiol. Nid yw hyn yn broses gwyno ffurfiol. Ewch i fewnrwyd y staff am ganllawiau ar sut i gyflwyno cwyn ffurfiol.
Mewn argyfwng:
Ffoniwch 999 ar unwaith os yw’r sefyllfa’n cynnwys risg ddifrifol. Cysylltwch hefyd â Diogelwch y Brifysgol ar +44 (0)29 2087 4444. Am gymorth iechyd meddwl brys, ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2.